Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 7 Rhagfyr 2021.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi’n codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried y canllawiau hynny. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, efallai eu bod yn rhy anhyblyg, gan fy mod i'n cofio'n dda iawn o fy nyddiau fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr hyblygrwydd a oedd ar gael i'r pwyllgor gwasanaethau arbenigol sy'n ystyried hyn i ni. Felly, os oes rhywbeth yr wyf i'n credu ei fod o werth ei ddiweddaru i'r Aelodau, byddwn ni'n sicr yn ceisio gwneud hynny.