9. Dadl Fer: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Cenfigen y byd?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:25, 8 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Yn astudiaeth yr archwilydd cyffredinol i Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, daeth i'r casgliad fod cyrff cyhoeddus yn canolbwyntio llawer mwy ar wella lles economaidd a chymdeithasol nag ar amcanion amgylcheddol a diwylliannol. Ni ddylai fod angen ein hatgoffa, Lywydd, fod COP26 unwaith eto wedi pwysleisio pwysigrwydd cynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol yn ein meddylfryd a'n cynlluniau o ddydd i ddydd. Nid oes llawer o ddiben cynllunio a meddwl yn strategol am unrhyw beth arall oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac rwyf mor falch fod y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn edrych ar y posibilrwydd o gyrraedd sero net erbyn 2035. Ac eto, er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i gynaliadwyedd amgylcheddol fod yn gwbl ganolog i bob agwedd ar ein bywydau, o'r Llywodraeth i gymdeithas sifil, a gweld lle gallwn wneud yn well.