9. Dadl Fer: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Cenfigen y byd?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:23, 8 Rhagfyr 2021

Dyma'r hyn yr oedd Deddf cenedlaethau'r dyfodol i fod i'w gyflawni. Ond, ar ôl chwe blynedd, a nifer o achosion llys yn ddiweddarach, rydyn ni'n wedi gweld nad oes gan y Ddeddf hon y pwerau angenrheidiol i gyflawni ei hamcanion clodwiw. Rwy'n cyfaddef bod y Ddeddf, i raddau, wedi newid y ffordd rŷn ni'n meddwl. Mae rhai cynghorau wedi datgan argyfwng natur ac mae rhai cyrff cyhoeddus wedi cymryd camau cadarnhaol i fod yn fwy gwyrdd. Ond dyw hyn ddim yn mynd yn ddigon pell. Ofer yw datganiadau a'r bwriadau gorau os nad yw gweithredoedd pendant yn eu dilyn. Ofer yw cydnabod amcanion os bod modd eu hosgoi pan fyddan nhw'n anghyfleus. Ofer yw hyd yn oed y Ddeddf mwyaf uchelgeisiol os nad oes modd dal cyrff cyhoeddus i gyfrif pan fyddan nhw'n torri'r Ddeddf yna.