9. Dadl Fer: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Cenfigen y byd?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:31, 8 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Pan ddywedodd y cyn Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, nad oedd y Ddeddf yn ddigon penodol nac yn ddigon tynn; pan ddisgrifiodd un o brif fargyfreithwyr Cymru, Cwnsler y Frenhines, Rhodri Williams, ei bod 'bron yn ddiwerth'; pan ddywedodd yr academydd blaenllaw ym maes cyfraith gyhoeddus, Dr Sarah Nason o Brifysgol Bangor, nad oedd yn rhoi hawliau cyfreithiol, gorfodadwy i unigolion, roeddent i gyd yn tynnu sylw at yr un broblem—anallu'r Ddeddf i ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif yn briodol, ac anallu'r Ddeddf i rymuso pobl a chymunedau lleol yn briodol.