9. Dadl Fer: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Cenfigen y byd?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:30, 8 Rhagfyr 2021

Sut fedrwn ni eistedd fan hyn—a dwi wedi clywed hyn yn y chwech mis dwi wedi bod yn y Siambr—sut fedrwn ni eistedd fan hyn yn braf yn canmol y Ddeddf, yn dweud ei bod hi’n radical, yn dweud ei bod hi’n genfigen y byd, pan nad yw hi hyd yn oed yn rhoi hawliau sylfaenol i'n dinasyddion ni i ddiogelu eu hasedau lleol ac i ddwyn eu cyrff cyhoeddus a'u llywodraeth leol i gyfrif? Dydy’r ffaith bod pobl yn adrodd geiriau fel 'cenfigen y byd' yn aml ddim yn meddwl bod hynny yn wir; dyw e ddim yn meddwl bod y Ddeddf yn berffaith. Dylem ni, fel Senedd, fel deddfwrfa, fod yn ddigon aeddfed i gydnabod pan dyw Deddf ddim yn ddigon da, ac wedyn bod yn barod i’w newid.