Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i Rhys am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n croesawu parhad y sgwrs rydym wedi bod yn ei chael yn y Senedd am y Ddeddf ar ddechrau'r tymor hwn.
Ac roeddwn eisiau eich atgoffa, yn ystod seremoni agoriadol y chweched Senedd, ein bod wedi cael darlleniad o gerdd a gomisiynwyd yn arbennig, 'Ein Llais - Our Voice', cerdd a grëwyd gyda chymorth bardd preswyl comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. A geiriau olaf y gerdd honno—a gwn i ni i gyd gael ein cyffwrdd yn fawr ganddi:
'Rydym am osod esiampl i weddill y byd.'
Felly, credaf y gallwn fod yn falch fod gwledydd eraill a sefydliadau rhyngwladol yn troi at Gymru am ysbrydoliaeth ar sut i ddeddfu ar gyfer y dyfodol, a gwn eich bod wedi cydnabod hynny, Rhys, yn eich cyfraniad heno. Ond ni allwn danbrisio'r ffaith bod Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn dangos ffordd unigryw Gymreig o fynd i'r afael â'r heriau hirdymor sy'n ein hwynebu, gyda'i ffocws ar rymuso a thrawsnewid y ffordd y mae'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn gweithio. Ac mae'n gwneud hyn drwy alluogi cyrff i weithio mewn ffordd ataliol, gydweithredol ac integredig, ffordd sy'n cynnwys dinasyddion ac sy'n edrych ar y tymor hir. Mae wedi cael ei chydnabod yn rhyngwladol, fel rydych wedi'i nodi. Mae'n ysbrydoli sefydliadau a llywodraethau ar draws y byd. Ac fe wnaethom benderfyniad beiddgar i ddeddfu fel hyn—y rheini ohonom a oedd yma ar y pryd, ac a lywiodd y ddeddfwriaeth drwy'r lle hwn. Mae'n wahanol, a cheir llawer o safbwyntiau ynglŷn â beth yw'r Ddeddf a beth y dylai fod yn y dyfodol. Fe'i disgrifiwyd fel un ryfeddol o ran ei hehangder, ei chwmpas a'i huchelgais, ac yn rhyngwladol, rydym wedi gweld sawl esiampl lle mae'r dull Cymreig wedi'i fabwysiadu neu wedi dylanwadu ar syniadau.
Yn yr Alban, maent wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Yn Senedd y DU, fel rydych eisoes wedi sôn, mae'r Arglwydd John Bird a Simon Fell AS yn cyd-noddi Bil llesiant cenedlaethau'r dyfodol, sydd wedi'i fodelu ar ein deddfwriaeth ni. Ym mis Tachwedd, dywedodd Gweinidog tramor Iwerddon, Simon Coveney, wrth Weinidogion Cymru fod y Ddeddf yn ysbrydoledig ac y byddai Llywodraeth Iwerddon yn awyddus i'w hefelychu. Diwygiodd Seland Newydd eu Deddf cyllid cyhoeddus, fel bod eu Llywodraeth wedi nodi'r amcanion llesiant a fydd yn llywio penderfyniadau cyllidebol y Llywodraeth ac yn cefnogi llesiant hirdymor.
Yn 2019, deddfodd Llywodraeth Jersey i'w gwneud yn ofynnol i'w Cyngor Gweinidogion ystyried llesiant cynaliadwy cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Ac yn gynharach eleni, gwnaeth y Cenhedloedd Unedig ymrwymiadau sylweddol i gynnwys dull cenedlaethau'r dyfodol yn system y Cenhedloedd Unedig. Mae Sefydliad Iechyd y Byd, Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, yn cydnabod gwerth y Ddeddf i iechyd, gan ddweud bod
'y Ddeddf yn cyd-fynd yn wirioneddol â'r nodau datblygu cynaliadwy a chyda gwerthoedd ac egwyddorion Iechyd 2020, fframwaith polisi Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer iechyd a llesiant.'
A'r wythnos nesaf, rwy'n siarad yn y ddegfed gynhadledd fyd-eang ar hybu iechyd, gan ganolbwyntio ar degwch llesiant a datblygu cynaliadwy. Rydym ni yng Nghymru yn denu diddordeb rhyngwladol oherwydd bod ein dull o weithredu'n wahanol.