Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Yn sicr, mae newidiadau sylweddol yn digwydd er gwell. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom ddatgelu fflyd newydd o drenau i gymryd lle'r Pacers, a phan gewch chi gyfle i fynd arnynt eich hun, fe welwch ei fod yn brofiad trawsnewidiol i deithwyr. Rydym hefyd yn datblygu rhaglen metro de Cymru, sy'n brosiect peirianneg sifil enfawr—y prosiect seilwaith mwyaf y bydd de Cymru wedi'i weld ers degawdau lawer. Felly, nid oes amheuaeth fod newid sylweddol yn digwydd dan law Llywodraeth Cymru. Ond mae'n rhaid inni gydnabod hefyd fod COVID wedi tarfu ar gynlluniau o ran cwymp y fasnachfraint—ac yn sicr, nid masnachfraint Cymru oedd yr unig fasnachfraint i gwympo o ganlyniad i bwysau llai o arian a chostau cynyddol—ac mae hynny wedi cael effaith ar y llinell amser a oedd gennym ar gyfer ychwanegu at yr amserlen a chyflwyno gwasanaethau newydd. Felly, mae honno'n ffaith anochel y mae'n ddrwg iawn gennym amdani, ond mae hynny allan o'n dwylo.
O ran tanfuddsoddi, mae'r Aelod yn gwneud pwynt gwych. Mae Llywodraeth y DU wedi tanfuddsoddi’n gyson, ac yn y rhaglen gyllido nesaf, rydym yn cael oddeutu £5 biliwn yn llai na'r hyn y dylem ei gael. Fel y soniodd y Prif Weinidog yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog eto ddoe, mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod dosbarthu HS2 fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig, er nad oes yr un filltir o drac yng Nghymru, yn amlwg yn cael effaith enfawr ar ein gallu i fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd. A byddwn yn dweud wrth yr Aelodau Ceidwadol yn y Siambr fy mod yn cofio'r gynghrair a ffurfiwyd yn y Siambr hon ar drydaneiddio oddeutu 10 mlynedd yn ôl, pan gafwyd ymdrech drawsbleidiol wirioneddol i ddadlau'r achos dros Gymru. Cymerais ran yn y ddirprwyaeth cyn dod yn Aelod o'r Senedd gydag Aelodau o'r Blaid Geidwadol i gyflwyno'r achos hwnnw i Weinidogion y DU. Roedd yn effeithiol, ac rydym ar ein cryfaf pan ydym yn unedig. Hoffwn weld cynghrair debyg i ddadlau, ar sail tegwch, fod angen trin Cymru'n wahanol wrth gategoreiddio rheilffyrdd cyflym. Fel arall, ni fydd modd inni gyflawni'r uchelgeisiau a rannwn i gyflawni sero net erbyn 2050.