Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:52, 8 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, ar yr union bwynt hwnnw, gallai Cymru fod £5 biliwn ar ei cholled heb swm canlyniadol Barnett yn sgil y gwariant ar HS2. Fel y gwyddoch yn amlwg, mae hynny oddeutu 5 y cant o gyfanswm gwariant y prosiect. Gallai fod yn llawer uwch, wrth gwrs, pe bai'r costau'n cynyddu, sy'n debygol. Yng ngeiriau Will Hayward o'r Western Mail,

'Mae'r penderfyniad i gyfrif HS2, buddsoddiad unwaith mewn canrif, fel gwariant Cymru a Lloegr wedi condemnio Cymru i ganrif arall o rwydwaith rheilffyrdd ail ddosbarth.'

Er bod y penderfyniad i eithrio Cymru o'r cyllid hwn, fel y nodwyd gennych, Weinidog, wedi'i wneud gan Lywodraeth Geidwadol y DU, mae Llywodraethau Llafur y gorffennol yng Nghymru hefyd wedi cyfrannu at y llanastr hwn. Cafwyd penderfyniad yn 2005 i wrthod datganoli rheilffyrdd, a ddisgrifiwyd fel y penderfyniad gwaethaf yn hanes datganoli. A'r anallu, yn y gorffennol, i ddeall dadl Plaid Cymru ar HS2 ddegawd yn ddiweddarach, gyda Carwyn Jones yn mynnu bod Cymru’n cael ei swm canlyniadol yn sgil HS2, er y byddai gosod ffactor cymharedd HS2 i Gymru ar 0 y cant yn golygu y byddai ein ffactor cymharedd ar gyfer gwariant yr Adran Drafnidiaeth yn plymio yn y dyfodol, sef yr hyn a welwn yn awr. Rwy'n siŵr fod Llywodraeth Lafur bresennol Cymru yn awyddus i—