1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 8 Rhagfyr 2021.
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ansawdd gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru? OQ57338
Diolch. Mae Trafnidiaeth Cymru yn monitro boddhad cwsmeriaid â'u gwasanaethau yn fisol fel yr holl weithredwyr trenau eraill. Ar hyn o bryd mae Trafnidiaeth Cymru ar ganol y tabl ac yn ymdrechu'n barhaus i wella gwasanaethau i deithwyr yn ystod cyfnod heriol gyda COVID a thywydd garw.
Diolch ichi am eich ateb. Dwi’n ddefnyddiwr pybyr iawn o wasanaethau trên. Yn fy 10 mlynedd i fan hyn yn y Senedd, dwi wedi gyrru i lawr efallai rhyw ddwywaith y flwyddyn. Dwi’n defnyddio’r trên bron yn ddieithriad os medra i, a dwi wedi defnyddio’r trên dair gwaith yn y tair wythnos diwethaf. Tair wythnos yn ôl, mi oeddwn i ddwy awr yn hwyr yn cyrraedd yn ôl i’r gogledd. Pythefnos yn ôl, mi ges i fy nal i fyny yn nhrafferthion a shambles, os caf i ddweud, gwasanaethau trên penwythnos rygbi—roeddwn i dros awr yn hwyr yn cyrraedd adre. Ac yr wythnos diwethaf hefyd, mi oeddwn i awr yn hwyr yn cyrraedd Caerdydd. Nawr, dwi’n rhywun sydd eisiau defnyddio trenau, ond mae’n rhaid i mi ddweud, dwi yn colli ffydd yn y gwasanaeth ac yng ngallu Trafnidiaeth Cymru i redeg y gwasanaeth. Felly, rydych chi’n addo gwelliant ers blynyddoedd, fel rŷn ni wedi clywed yn barod y prynhawn yma, ond pa mor amyneddgar ydych chi’n disgwyl i bobl fod, oherwydd erbyn ichi gael y gwasanaeth lan i lle rŷn ni i gyd eisiau ei weld, mi fydd y rhan fwyaf o bobl wedi rhoi lan?
Mae'n ddrwg gennyf glywed yr hyn a ddywedodd Llyr Gruffydd am ei brofiad yn teithio ar y trên, a sut y mae'n ysgwyd ei hyder. Yn amlwg, os yw hynny'n dechrau digwydd, mae gennym broblemau sylweddol. Credaf fod angen inni ddeall yr ystod o wahanol bwysau sy'n wynebu'r system drenau yng Nghymru, ac ar draws y DU ar hyn o bryd. Nid wyf yn credu bod Trafnidiaeth Cymru yn arbennig o wahanol gyda rhai o'r pethau y mae'n rhaid iddynt ymdopi â hwy. Mae difrod wedi cael ei wneud i nifer o drenau, sydd wedi lleihau nifer y cerbydau sydd ar gael, ac mae'r ffaith nad yw Avanti West Coast yn adfer gwasanaethau ar draws gogledd Cymru hefyd wedi cael effaith ac wedi creu rhywfaint o orlenwi. Rwy'n credu bod Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol iawn o hynny ac yn gweithio'n galed arno. Fel y soniodd Llyr Gruffydd yn deg yn ei gwestiwn, ni allwn osgoi effaith hirdymor y tanfuddsoddiad a gawsom, ac mae hynny'n amlygu ei hun yn awr. Ond nid oes amheuaeth fod pwysau arbennig o drwm ar rai gwasanaethau ar hyn o bryd ac mae Trafnidiaeth Cymru'n gweithio'n galed i'w datrys.
Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi a chroesawu'r newyddion am ailgyflwyno gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol o Crosskeys i Gasnewydd, o ddydd Sul, 12 Rhagfyr, mewn pryd ar gyfer y Nadolig? Nid camp fach mo hon a dyma fydd y gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol cyntaf i deithwyr o gymunedau Islwyn i Gasnewydd mewn bron i 60 mlynedd. Ers fy ethol, rwyf wedi ymgyrchu dros ailgysylltu gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn i Gasnewydd—dinas falch Gwent—ac rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni'r addewid hwnnw a wnaeth i bobl Islwyn. Weinidog, pa gamau y bydd Llafur Cymru yn eu cymryd i gyflawni ein haddewid o sicrhau gwasanaeth trenau newydd i deithwyr o Lynebwy i Gasnewydd, er mwyn sicrhau y gellir ailgysylltu dinasyddion Trecelyn yn uniongyrchol â Chasnewydd, lleihau'r tagfeydd ar ein ffyrdd, gwyrddu ein cymoedd ymhellach, a glanhau ein hawyr?
Wel, nid yn unig y byddaf yn ymuno â chi i groesawu gwasanaeth Crosskeys, ond mewn gwirionedd, rwy'n codi am 6 o'r gloch fore Llun er mwyn dal gwasanaeth rheilffordd Crosskeys a'i weld yn dod i mewn i Gasnewydd, felly nid wyf yn credu y gall unrhyw un yn y Siambr gwestiynu fy ymrwymiad. Mae'n enghraifft berffaith o'r hyn rydym wedi gallu ei wneud, er nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli i Gymru—i gamu i'r adwy lle mae Llywodraeth y DU wedi methu sicrhau bod pobl ein cymunedau yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu.
Rydym wedi gallu sicrhau bod swm sylweddol o arian ar gael eleni i fuddsoddi yn yr estyniad tuag at Lynebwy. Mae angen camau gweithredu gan Lywodraeth y DU a Network Rail, ac rydym yn siarad â hwy ynglŷn â chyflymu'r gwaith hwnnw. Roeddwn yn falch iawn o ddarllen argymhelliad Syr Peter Hendy yn ei adroddiad yn yr 'Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb' yr wythnos o'r blaen: mae Llywodraeth y DU yn gwneud mwy i wella gwasanaethau rheilffyrdd i mewn i Gymru ac yng Nghymru. Roedd hefyd yn llwyr groesawu argymhellion adolygiad Burns, i ymdrin â thagfeydd o amgylch Casnewydd, ac mae rhan o hynny'n golygu buddsoddi yng nghyswllt rheilffordd Glynebwy, a gwrthododd awgrym y Prif Weinidog y dylai Llywodraeth y DU adeiladu M4 a diystyru datganoli, gan anwybyddu ewyllys ddemocrataidd y bobl yn llwyr, a dywedodd yn benodol mai'r ateb i drafnidiaeth gyhoeddus a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, drwy Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, oedd y ffordd gywir ymlaen. Felly, credaf y dylai'r Ceidwadwyr Cymreig ddangos ychydig o wyleidd-dra wrth gydnabod bod adroddiad eu Llywodraeth eu hunain wedi gwrthod galwad y maent wedi bod yn ei gwneud yn y Siambr hon, ac rwy'n gobeithio, gyda'n gilydd, y gallwn symud ymlaen a chanolbwyntio ar fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a disgwyl i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan yn hynny.
Dros y penwythnos, cysylltodd etholwr â mi a ddywedodd, 'Euthum ar y trên o Gaerdydd tua 3.23 a chyrhaeddais Gaer ar ôl hanner nos ar drên a ddylai fod wedi cyrraedd am 6.23 p.m. Mae teithwyr eraill a minnau'n credu bod Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol o'r broblem cyn inni adael gorsaf Caerdydd Canolog. Digwyddodd hyn ar 17 Tachwedd.'
Ddydd Llun diwethaf, fel Llyr, ar y nawfed ar hugain, archebais fy nhocyn o Wrecsam i lawr yma, ond gwyddwn fod yna broblemau. Ffoniais Trafnidiaeth Cymru, ac fe wnaethant gadarnhau bod fy nhrên wedi'i ganslo ond dywedasant fod yr un nesaf ar amser. Pan gyrhaeddais, roedd yr arwyddion uwchben, hyd at yr amser cyrraedd, yn dangos i mi a'r teithwyr eraill fod y trên ar amser. Ond yr eiliad roedd y trên i fod i gyrraedd, dywedodd yr uchelseinydd fod 'y trên wedi'i ganslo'. Bu'n rhaid inni aros awr a hanner arall am y trên nesaf mewn tywydd rhewllyd, gyda'r ystafell aros dan glo am fod Trafnidiaeth Cymru bellach yn cloi ystafell aros Wrecsam am 6 p.m. Y broblem yma yw—rwy'n deall yn amlwg fod problemau'n digwydd gyda'r trac, ac mae'n rhaid ymdrin â hwy, ond cafwyd methiant o ran gofal teithwyr, methiant o ran darparu gwybodaeth i deithwyr, a allai fod wedi atal pobl rhag gorfod aros ar y platfform cyhyd mewn amgylchiadau mor arw. Felly, sut rydych yn cynnig mynd i'r afael â'r broblem wybodaeth honno, fel bod teithwyr yn cael eu diogelu rhag sefyllfaoedd tebyg?
Wel, mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am y profiad a gafodd yr Aelod a'i gyd-deithwyr, ac mae'n amlwg nad yw hynny'n ddigon da. Mae Trafnidiaeth Cymru yn wynebu heriau gweithredol difrifol ar hyn o bryd, a chredaf fod angen iddynt ystyried ei brofiad, a gofynnaf iddynt ymchwilio i'r amgylchiadau penodol hyn ac ystyried y pwynt a wnaeth, a'r ddealltwriaeth y mae wedi'i dangos pan fo anawsterau'n digwydd, fod cyfathrebu'n bwysicach nag ar unrhyw adeg arall. Felly, credaf fod gwersi i'w dysgu o hynny, a byddaf yn siarad â hwy ac yn ysgrifennu ato yn ei gylch.