Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Hoffwn ddechrau drwy ddatgan buddiant, gan fy mod yn gynghorydd yn sir Ddinbych tan fis Mai 2022. Mae arnaf ofn y byddaf yn parhau i rygnu ymlaen am hyn ac yn swnio fel record wedi torri gan fy mod wedi crybwyll y cwestiwn hwn unwaith neu ddwy yn barod. Mae cymunedau Trefnant a Thremeirchion yn dal i ymdrin â chanlyniadau'r llifogydd ofnadwy yn sgil storm Christoph ar ddechrau'r flwyddyn. Cafodd y cysylltiad hanfodol rhwng y ddwy gymuned yn fy etholaeth ei erydu a'i olchi ymaith. Ni fydd pont hanesyddol Llannerch yn cael ei hailgodi am flynyddoedd, a dim ond os gall Cyngor Sir Dinbych sicrhau'r miliynau o bunnoedd sydd ei angen i ariannu'r gwaith ailadeiladu. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i ddarparu'r cyllid a gweithio gyda'r cyngor i ail-greu'r cyswllt cymunedol allweddol a'r llwybr teithio llesol hanfodol hwn cyn gynted â phosibl?