Adfywio Canol Trefi

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:12, 8 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn parhau i gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer canol trefi, sy'n cynnwys addasu adeiladau gwag at ddibenion gwahanol, gwella amrywiaeth gwasanaethau, cynyddu mannau gwaith a byw hyblyg, a chreu mwy o fannau gwyrdd cymunedol. Mae'r rhaglen wedi darparu £136 miliwn ledled Cymru yn benodol ar gyfer adfywio canol trefi.