Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Ddirprwy Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fy mod wedi ymuno â'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ddiweddar ar gyfer agoriad swyddogol y Cynon Linc newydd yn Aberdâr. Wedi'i reoli gan Age Connects Morgannwg, a'i ariannu drwy gronfa gofal integredig Llywodraeth Cymru, mae hwn wedi troi adeilad cymunedol blinedig yn gyfleuster modern, addas i'r diben yng nghanol y gymuned, ac mewn lleoliad amlwg yng nghanol y dref. Felly, ym mha ffordd arall y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus, yn benodol, a rhanddeiliaid eraill, i gyflwyno cynlluniau i adfywio canol ein trefi?