Colli Amser Ysgol

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:27, 8 Rhagfyr 2021

Mi ddylai popeth, wrth gwrs, gael ei wneud i atal colli mwy o ysgol, ond, efo nifer yr achosion mor uchel, mae yna broblemau ymarferol mewn ysgolion o sicrhau bod yna ddigon o staff ar gael i gadw dosbarthiadau ar agor ac, wrth gwrs, mae yna bryder go iawn a dealladwy iawn am drosglwyddiad o fewn ysgolion gan staff a rhieni sy'n cysylltu efo fi, yn cynnwys pryderon am effaith posib hynny ar allu teuluoedd i ddod at ei gilydd yn ddiogel dros y Nadolig. Felly, o gofio bod risg yr amrywiolyn omicron newydd yn dal i gael ei asesu, beth ydy neges y Gweinidog i'r rheini sy'n bryderus iawn ac y byddai'n ffafrio symud i ddysgu arlein, efallai dim ond am ychydig ddyddiau'n ychwanegol, yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig?