2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 8 Rhagfyr 2021.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r amser ysgol a gaiff ei golli yn ystod pandemig COVID-19 yng Ngogledd Cymru? OQ57329
Rwyf wedi cyflwyno'r fframwaith rheoli heintiau lleol a'r pecyn cymorth ategol i gynorthwyo ysgolion i gyflwyno mesurau ychwanegol yn seiliedig ar drosglwyddiad cymunedol lleol; er enghraifft, yng Ngwynedd, rydym wedi cynyddu'r cynnig o brofi yn ddiweddar am gyfnod cyfyngedig mewn ymateb i angen lleol. Rydym yn trafod yn gyson â chyfarwyddwyr addysg ledled Cymru ynglŷn ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys, ar hyn o bryd, trefniadau diwedd tymor. Oherwydd ein hymrwymiad i gynnal gallu plant i ddysgu yn yr ysgol, mae pob awdurdod lleol ledled Cymru yn blaenoriaethu cadw eu hysgolion ar agor tan ddiwedd y tymor a chynllunio ar y sail honno.
Diolch ichi, Weinidog. Mae'n braf clywed yr ymgysylltiad rydych yn ei gael gydag ysgolion a chyda'r cyfarwyddwyr addysg mewn awdurdodau lleol hefyd oherwydd, wrth gwrs, mae disgyblion yng Nghymru, yn anffodus, wedi cael llai o amser wyneb yn wyneb mewn ysgolion na chymheiriaid ar draws y Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig. Ac rwy'n siŵr y byddech yn cydnabod bod dysgu ar-lein—er bod ganddo ei le, nid oes dim byd tebyg i ddisgyblion yn dod at ei gilydd a'r manteision sy'n deillio o ddysgu wyneb yn wyneb, gan ganiatáu i athrawon ddarparu arsylwi a chymorth priodol. Ac wrth gwrs, mae'r rhyngweithio wyneb yn wyneb hwn yn caniatáu i ysgolion gefnogi llawer o'n dysgwyr iau, yn enwedig, gyda datblygiadau pwysig, ac mae lleferydd yn un o'r rheini. A nodais eich datganiad yn y Siambr fis diwethaf ar lafaredd a darllen plant, a'ch sylwadau fod sgiliau siarad, gwrando a darllen, wrth gwrs, yn hanfodol i bob agwedd ar ein bywydau, ac roeddwn yn croesawu clywed y pethau hynny'n cael eu dweud. Ond hoffwn fynd gam ymhellach ar hyn—ac efallai fod angen imi ddatgan buddiant, gyda thri phlentyn yn yr ysgol gynradd. Ond Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o effeithiau colli amser yn yr ysgol ar leferydd plant? Pa sgyrsiau a gawsoch gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wella'r sefyllfa a sicrhau bod mynediad ar gael at rai a allai fod angen y cymorth ychwanegol hwnnw?
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Wrth gwrs, mae'n gywir i ddweud bod plant yn dysgu orau pan fyddant mewn ystafell ddosbarth gyda'u cyfoedion a chyda'u hathrawon yn dysgu wyneb yn wyneb. Wrth gwrs, cafwyd adegau pan na fu hynny'n bosibl ac wrth gwrs, mewn rhai rhannau o Gymru mae hynny'n parhau i fod yn heriol o wythnos i wythnos ar hyn o bryd. Ond mae'n fwriad gan bawb ar draws y system addysg gyfan yng Nghymru i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i blant fod yn dysgu'n ddiogel mewn ystafelloedd dosbarth gyda'u cyfoedion, fel y dywedaf. Credaf ei bod yn wir dweud ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn yr amgylchiadau anodd dros y 18 mis diwethaf ar ddatblygu'r cynnig dysgu o bell a dysgu cyfunol yn sylweddol iawn o gymharu â'n sefyllfa ar ddechrau'r pandemig, yn naturiol, ond prin fod angen dweud mae'n debyg nad yw hynny mor foddhaol â bod yn yr ysgol.
Soniodd am y datganiad a wneuthum nifer o wythnosau'n ôl. Rwyf mewn trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog iechyd mewn perthynas â'r mater hwnnw. Roedd yn seiliedig ar ein dealltwriaeth fod heriau wedi bod i ddisgyblion iau yn enwedig o ran llafaredd a'r camau datblygiadol cynnar, a dyna a ysgogodd y datganiad hwnnw. Ac fe welwch ddatblygiadau pellach yn y maes hwnnw dros yr wythnosau nesaf, a gobeithio y gallwch eu croesawu.
Mi ddylai popeth, wrth gwrs, gael ei wneud i atal colli mwy o ysgol, ond, efo nifer yr achosion mor uchel, mae yna broblemau ymarferol mewn ysgolion o sicrhau bod yna ddigon o staff ar gael i gadw dosbarthiadau ar agor ac, wrth gwrs, mae yna bryder go iawn a dealladwy iawn am drosglwyddiad o fewn ysgolion gan staff a rhieni sy'n cysylltu efo fi, yn cynnwys pryderon am effaith posib hynny ar allu teuluoedd i ddod at ei gilydd yn ddiogel dros y Nadolig. Felly, o gofio bod risg yr amrywiolyn omicron newydd yn dal i gael ei asesu, beth ydy neges y Gweinidog i'r rheini sy'n bryderus iawn ac y byddai'n ffafrio symud i ddysgu arlein, efallai dim ond am ychydig ddyddiau'n ychwanegol, yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig?
Wel, mae'r Aelod yn iawn i ddweud, wrth gwrs, fod amgylchiadau omicron yn golygu ein bod ni'n gorfod cadw golwg gofalus iawn ar ddatblygiadau. Mae'r Cabinet wedi cwrdd heddiw a bydd yn cwrdd eto yfory. Mae'r peth o dan drosolwg dyddiol ar hyn o bryd oherwydd bod y darlun yn newid ac mae mwy o ddata'n cael eu cyflwyno a'r dystiolaeth yn dod yn amlycach fesul diwrnod. Felly, mae wir yn bwysig yn y cyfnod hwn nawr ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau ein bod ni'n glynu wrth y rheoliadau sydd wedi bod mor bwysig i'n cadw ni'n ddiogel. Gwnes i ddatganiad ar ddechrau'r mis i sicrhau bod gennym ni approach cenedlaethol ar gyfer gwisgo mygydau mewn dosbarthiadau, ynghyd â mewn ardaloedd eraill yn ein hysgolion ni, oherwydd dydyn ni ddim eto yn gwybod yn union beth yw impact omicron, felly, dŷn ni eisiau sicrhau ein bod ni'n ofalus, yn sicr dros dro.
O ran y galwadau oddi wrth rai i edrych ar ddiwrnodau olaf y tymor, mae rhai awdurdodau'n gorffen, wrth gwrs, ddiwedd wythnos nesaf, ac mae rhyw naw neu 10 yn gorffen yn agosach at y Nadolig. Rydyn ni wedi bod yn trafod hyn gyda swyddogion yn fewnol, wrth gwrs, a chydag awdurdodau lleol ledled Cymru, yn cynnwys y rheini sy'n mynd yn hwyrach tuag at y Nadolig. Fel rwy'n ei ddweud, mae awydd gan bawb ar hyn o bryd i sicrhau bod ein plant ni'n gallu bod yn eu hystafelloedd dosbarth. Fe gawn ni weld beth ddaw yn sgil omicron, fel rwy'n ei ddweud. Dyw'r sefyllfa ddim cweit mor straightforward efallai â jest dweud gan fod plant ddim yn yr ystafell ddosbarth bod hynny'n rhywbeth sydd yn diogelu o ran trosglwyddiad. Mae impact yn gallu dod ar wasanaethau cyhoeddus eraill ac yn ehangach na hynny. Mae, wrth gwrs, impact ar ddysgu a hefyd dyw e efallai ddim yn cymryd mewn i ystyriaeth bod cyfle i blant gymysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth beth bynnag. Felly, mae plant wedi colli cymaint o ddysgu dros y flwyddyn i 18 mis diwethaf, rŷn ni am sicrhau eu bod nhw'n cael pob cyfle posibl yn cynnwys yn ystod y diwrnodau hynny. Dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd, ond fel rwy'n ei ddweud, rŷn ni'n cadw'r pethau yma o dan drosolwg cyson.