Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
—gan yr heddlu fod cynnydd enfawr wedi bod mewn achosion o drais yn y cartref, cynnydd enfawr yn nifer y plant sy'n cael eu tynnu i mewn i linellau cyffuriau neu fathau eraill o gamfanteisio, a waethygwyd gan y cyfyngiadau symud. Felly, a ydych yn cytuno â mi, er eu bod yn fach o ran eu nifer, fod pob absenoldeb heb esboniad o'r ysgol, yn enwedig os nad ydynt wedi bod yn yr ysgol ers y cyfyngiadau symud, yn peri pryder mawr ynglŷn â lles pob disgybl, a bod yn rhaid i'r holl asiantaethau dan sylw roi blaenoriaeth i'w cael yn ôl i'r ysgol?