Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:45, 8 Rhagfyr 2021

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ddoe, bues i'n cwrdd â phwyllgor Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, sydd ers blynyddoedd bellach wedi bod yn ymgyrchu dros gael swyddog i'r Gymraeg llawn amser yn yr undeb. Mae gan brifysgolion Aberystwyth, Abertawe a Bangor swyddog tebyg ers blynyddoedd. Ond, yma yng Nghaerdydd, lle mae dros 3,000 o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yr iaith—y nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg yn unrhyw un o'n prifysgolion ni—does yna ddim swyddog sabothol gyda nhw. Yn ôl llywydd undeb y myfyrwyr Cymraeg, byddai swyddog o'r fath yn gallu darparu gwasanaethau pwysig i fyfyrwyr yn y Gymraeg, trefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o'r iaith, sicrhau bod llais i siaradwyr Cymraeg yng ngweithredoedd yr undeb, a rhoi gofod i bobl ifanc, wrth gwrs, i ddod at ei gilydd i ddefnyddio'r iaith yn gymdeithasol. Hefyd, mae'n sicrhau bod democratiaeth yn cael ei pharchu gan fod y myfyrwyr wedi pleidleisio fwy nag unwaith yn y gorffennol o blaid y math hwn o gynnig. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod hi'n hen bryd i fyfyrwyr Cymraeg gael chwarae teg yma yn y brifysgol yn ein prifddinas ni, ac a fyddai fe'n fodlon ysgrifennu at fwrdd yr ymddiriedolwyr, sy'n cwrdd ddydd Iau nesaf mae'n debyg, er mwyn cefnogi ymgyrch y myfyrwyr Cymraeg?