Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Mewn prifysgol sydd â'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg o holl brifysgolion Cymru, mae'n briodol bod gan myfyrwyr gynrychiolaeth gyflogedig yn eu hundeb. Byddai hyn yn cyfateb i'r gynrychiolaeth rŷn ni'n gweld mewn undebau ym mhrifysgolion eraill Cymru, fel gwnaeth yr Aelod grybwyll yn ei gwestiwn. Mater, wrth gwrs, i fwrdd ymddiriedolwyr yr undeb ei hunan yw hyn. Fodd bynnag, os yw'r cynnig i sefydlu swydd lawn amser i'r Gymraeg wedi ei basio yn unfrydol, fel rwy'n deall ei fod e wedi, byddai'n rhesymol i ddisgwyl bod y penderfyniad hwn yn cael ei wireddu.