Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Rwyf wedi cyflwyno'r fframwaith rheoli heintiau lleol a'r pecyn cymorth ategol i gynorthwyo ysgolion i gyflwyno mesurau ychwanegol yn seiliedig ar drosglwyddiad cymunedol lleol; er enghraifft, yng Ngwynedd, rydym wedi cynyddu'r cynnig o brofi yn ddiweddar am gyfnod cyfyngedig mewn ymateb i angen lleol. Rydym yn trafod yn gyson â chyfarwyddwyr addysg ledled Cymru ynglŷn ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys, ar hyn o bryd, trefniadau diwedd tymor. Oherwydd ein hymrwymiad i gynnal gallu plant i ddysgu yn yr ysgol, mae pob awdurdod lleol ledled Cymru yn blaenoriaethu cadw eu hysgolion ar agor tan ddiwedd y tymor a chynllunio ar y sail honno.