Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am amlinellu sut y caiff y cynlluniau eu llunio, ac rydych wedi dweud bod ymgynghori ac ymgysylltu'n digwydd â rhanddeiliaid ar ddatblygu'r cynlluniau hynny, ond oherwydd mai bob 10 mlynedd y mae hynny'n digwydd, ni roddir ystyriaeth i'r newid yn y boblogaeth a'r effaith ar fannau eraill. Sylwais hefyd eich bod wedi dweud eich bod yn mynd i gyflwyno newid deddfwriaethol, ac mae'n amlwg fy mod yn croesawu hynny'n fawr, ond ni wnaethoch bennu amserlen, fe ddywedoch chi 'yn fuan', dim mwy na hynny. Pa mor fuan yw 'yn fuan'?