Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Dylai tystiolaeth dorcalonnus staff rheng flaen sydd wedi'u gorlethu â gwaith yn yr adroddiad hwn a pheth o'r cynnwys gwarthus wneud i bob swyddog a Gweinidog y Llywodraeth feddwl yn ofalus. Mae'n amlwg yn annerbyniol fod adroddiad mor bwysig â hwn, sy'n cynnwys 700 tudalen o dystiolaeth gan 45 aelod o staff, wedi'i gadw rhag y cyhoedd am amser mor hir.
Nawr, mewn cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd yr wythnos diwethaf, lleisiais fy mhryderon mewn perthynas â'r adroddiad penodol hwn, a chefais sicrwydd y bydd adroddiadau yn y dyfodol lle canfyddir bod pethau wedi mynd o chwith yn ddifrifol yn cael eu hysgrifennu gyda'r bwriad o'u cyhoeddi. A bod yn deg, credaf fod y bwrdd iechyd wedi cydnabod na ddylid oedi yn y fath fodd gydag adroddiadau fel hyn, a gadael i deuluoedd boeni am amser maith wrth aros i'w gweld. Fodd bynnag, o gofio bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr bellach ar ail gam adroddiad pwysig ar wasanaethau fasgwlaidd, a'r adran wroleg, bydd y rhain hefyd yn destun adolygiad. Weinidog, rwy'n gobeithio y byddwch yn defnyddio'ch ateb i gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio'i gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd gyhoeddi adroddiadau fel mater o drefn ac mewn modd amserol er mwyn gwella tryloywder ac ymddiriedaeth cleifion.
Mae canfyddiadau adroddiad Holden, sy'n cynnwys nodiadau helaeth ar brinder staff ar wardiau i'r graddau fod gofal corfforol sylfaenol a sylw i hylendid personol wedi cael eu hesgeuluso, yn ogystal â phryderon ynghylch strwythurau rheoli gwallus, yn adlewyrchu problemau yn y bwrdd iechyd. Yn wir, canfu adolygiad Ockenden fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ers dechrau 2013, yn cael clywed nad oedd eu rheolaeth a’u hymdrechion i ymchwilio i bryderon, gan gynnwys digwyddiadau difrifol a digwyddiadau 'byth', yn addas at y diben. Yn ychwanegol at hynny, mae staff rheng flaen ym maes gwasanaethau iechyd meddwl pobl hŷn wedi adrodd yn gyson am bryderon sylweddol ynghylch lefelau staffio a diffyg ymgysylltiad â'r uwch dimau rheoli iechyd meddwl. At ei gilydd, mae'r canfyddiadau hyn yn cefnogi'r cyfiawnhad dros ymchwiliad pellach i waith a rheolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Er gwaethaf adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y pumed Senedd ym mis Mai 2019, a oedd yn nodi amheuon ynglŷn ag a fyddai’r bwrdd yn gallu dod allan o fesurau arbennig o fewn 12 mis, ar ôl bron i bum mlynedd a hanner mewn mesurau arbennig, ym mis Tachwedd 2020, cymerodd y cyn-Weinidog iechyd y cam annisgwyl i ddod â'r bwrdd allan o fesurau arbennig, ac fel y dywedodd Sam Rowlands, fy nghyd-Aelod, roedd hyn ychydig cyn etholiad Senedd. Felly, mae'n hanfodol fod unrhyw ymholiadau yn archwilio a yw'r penderfyniad gwleidyddol hwn wedi cael effaith negyddol ar y bwrdd iechyd, yn enwedig gan ei fod yn dal i ddioddef yn sgil prinder staff, ac wedi gwario £180 miliwn ar staff asiantaeth dros y pum mlynedd diwethaf, a'r ffaith bod oddeutu 40,242 o gleifion yn aros yn hwy na blwyddyn am eu triniaeth.
Gan ddychwelyd at fater gwasanaethau iechyd meddwl, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai gan y bwrdd hwn y mae'r amseroedd aros gwaethaf ond un yng Nghymru, gyda 56.3 y cant yn unig yn aros llai na 28 diwrnod am asesiad ym mis Medi 2021. Mewn ysbryd adeiladol, ynghyd â strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd newydd, rwy’n sefyll gyda fy nghyd-Aelodau o blith y Ceidwadwyr Cymreig i alw am Ddeddf iechyd meddwl newydd, a fyddai’n diweddaru'r ddeddfwriaeth ac yn cynnwys y syniadau diweddaraf ynghylch y ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru. Fy ngobaith yw y bydd Deddf o'r fath yn helpu i sefydlu rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl galw i mewn 24 awr ar gyfer pobl mewn argyfwng iechyd meddwl, yn ogystal â chefnogi cael nyrsys hyfforddedig yn ôl i feddygfeydd teulu.
Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y bydd eich ateb yn ymrwymo i weithio ar sail drawsbleidiol i gyflwyno Deddf iechyd meddwl newydd fel y gallwn ddatblygu gwelliannau radical ar frys i'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl ym mwrdd Betsi Cadwaladr a ledled Cymru. Ac nid wyf yn dymuno codi i siarad yn y Senedd hon byth eto i drafod canfyddiadau mor ddifrifol ag y canfu'r adroddiad hwn. Ac rwy'n—. Y pwyntiau a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, heddiw: fel Aelodau sydd wedi bod yma ers mwy nag un tymor, mae'n debyg dyma'r diwrnod tristaf i mi orfod codi yn y Senedd hon. Diolch.