Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Wedi dweud hynny, ymatebodd y Prif Weinidog ddoe—roeddwn yn gwrando ar y cwestiynau i'r Prif Weinidog—am wasanaethau iechyd meddwl, a dywedodd fod llywio gofal yn bwysig iawn i leihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd meddwl. Y broblem gyda llywio gofal yw ei fod yn creu tagfa, ac mae'r tagfeydd yn digwydd ar y pwynt rydych yn mynd at ofal sylfaenol. A phan fyddwch yn mynd at ofal sylfaenol, gall fod yn anodd iawn cyrraedd y gwasanaeth iechyd meddwl cywir. Rwyf wedi ysgrifennu—. Mae gennyf lawer o gydymdeimlad â rhai o'r diwygiadau a awgrymir, gan gynnwys adolygiad sylfaenol o wasanaethau iechyd meddwl, oherwydd ysgrifennais at y Gweinidog iechyd i ofyn am adolygiad dan arweiniad arbenigwyr i lywio gofal. Ni chefais ymateb cadarnhaol, ond cefais esboniad o'r gwaith sydd wedi'i wneud gyda gwasanaethau meddygon teulu i wella mynediad at lywio gofal, sydd wedi'i gyflwyno, ac a ddylai arwain at ostyngiad yn y ciwiau am 8 a.m. a'r math o beth sy'n digwydd ar y ffôn, y peth cyntaf ar fore Llun neu fore Mawrth. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith mewn perthynas â hynny. Er hynny, daw'r prawf ynghylch hynny yn y dystiolaeth sy'n digwydd ar ôl cyflwyno'r mesurau. Felly, mae tagfeydd i ofal yn bwysig, a'r hyn sy'n digwydd yn aml gyda phobl sy'n chwilio am gymorth iechyd meddwl yw bod y rhestr aros am wasanaethau fel therapi siarad mor hir fel eu bod yn mynd am feddyginiaeth yn lle hynny. Ac ni ddylai meddyginiaeth fod yn opsiwn cyntaf ar gyfer cymorth iechyd meddwl. Dylai fod yn therapi siarad, ymarfer corff, newid ffordd o fyw. Gall yr holl bethau hyn gefnogi'n well nag opsiwn uniongyrchol i gyffuriau a'r math hwnnw o ateb. Felly, nid yw'r tagfeydd hyn yn helpu, a chredaf fod Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â hynny.
Yn olaf, hoffwn nodi materion penodol a dynnwyd i fy sylw yn fy etholaeth. Cysylltodd un o fy etholwyr sydd ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd a syndrom Tourette â mi. Daeth ataf fel rhan o ymgyrch a drefnwyd gan gymdeithas syndrom Tourette yn ne Cymru, ac yn benodol nid oes llwybr clinigol ar gyfer syndrom Tourette yng Nghymru, sy'n golygu anawsterau i sicrhau diagnosis a dod o hyd i gymorth pellach. Bydd y rheini ohonoch sydd wedi bod yn y Siambr hon ers peth amser yn gwybod bod gennyf ferch sy'n awtistig iawn, a gallaf weld llwybr iddi hi, a'r driniaeth y mae hi ei hangen. Ond nid oes gan y rhai sydd â syndrom Tourette ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd lwybr tebyg ac nid oes ganddynt fynediad tebyg at wasanaethau iechyd meddwl. A gwn fod y Dirprwy Weinidog yn gwybod y manylion am hyn ac mae'n gweithio ar hyn. Mewn ymateb i stori gan BBC Wales ar y mater, dywedodd Llywodraeth Cymru,
'Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cyflwyno fframwaith newydd i wella'r mynediad at y cymorth cywir' a'i bod,
'yn adolygu'r holl wasanaethau niwroddatblygiadol i blant ac oedolion, i nodi lle mae bylchau yn y ddarpariaeth a'r galw, y capasiti a chynllun gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion' er mwyn eu gwella. A all y Gweinidog gadarnhau felly p'un a yw'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny wedi cwblhau'r broses o gyflwyno'r fframwaith newydd hwn ai peidio? Ac a all gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn dal ar y trywydd iawn i gwblhau ei hadolygiad o wasanaethau niwroddatblygiadol plant ac oedolion erbyn mis Mawrth fel y bwriadwyd, a fyddai'n mynd beth o'r ffordd tuag at ateb rhai o'r cwestiynau yn y cynnig?
Yn olaf, gan ein bod yn sôn am iechyd meddwl, byddwn ar fai'n peidio â chroesawu Andrew R.T. Davies yn ôl i'r Siambr. Roeddwn yn credu bod ei gyfraniad ddoe yn gyfraniad rhywun sydd wedi cymryd hoe o'r byd gwleidyddol, oherwydd roedd yn rhesymol iawn, yn bwyllog iawn, a chredaf fod gwers i ni yn awr dros y Nadolig i gymryd cam yn ôl, a dychwelyd yn y flwyddyn newydd, mae'n debyg, mewn ysbryd o garedigrwydd a chyd-gefnogaeth.