Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i drafod adroddiad Holden ac adeiladu ar y drafodaeth a gawsom fel rhan o'r ddadl fer dan arweiniad Llyr Gruffydd ychydig wythnosau'n ôl. Er bod ychydig wythnosau wedi mynd heibio bellach ers rhyddhau'r adroddiad damniol hwn o'r diwedd, mae'n werth nodi bod y Llywodraeth yn dal i fod heb ddefnyddio ei hamser Senedd ei hun i ganiatáu i'r Senedd drafod yr adroddiad a chraffu ar ymateb y Llywodraeth.
Gan fod yr adroddiad wedi'i gyhoeddi o'r diwedd, mae'n rhaid i waith ddechrau ar adfer ymddiriedaeth pobl gogledd Cymru, ac mae hynny'n dechrau gyda'r angen i'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru gyfaddef pa mor fawr yw'r hyn y mae'r adroddiad hwnnw'n ei ddatgelu, cydnabod bod ymddiriedaeth yn y system wedi erydu'n helaeth iawn, ac ymrwymo i ddysgu pob gwers anodd sy'n deillio o hyn. Rhaid inni beidio ag anghofio mai'r adroddiad hwn oedd un o'r ffactorau a arweiniodd at osod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig yn y lle cyntaf, ac roedd gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb uniongyrchol dros y bwrdd iechyd hyd at y llynedd, a hyd yn oed ar ôl iddo ddod allan o fesurau arbennig, roedd cleifion yn dal i farw, ac mae cwestiynau'n parhau yn fy meddwl i ac ym meddyliau llawer o bobl eraill sut y gellid bod wedi gwneud y penderfyniad i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig pan oedd cynifer o gwestiynau heb eu hateb.
Ond mae hyn yn awr yn ymwneud â llawer mwy na rhyddhau adroddiad hirddisgwyliedig; mae'n ymwneud ag atebolrwydd pawb sy'n gyfrifol am y bwrdd iechyd, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, yn awr ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dros y cyfnod mwyaf ofnadwy hwn. Byddwn yn cefnogi'r cynnig fel y mae ac yn gwrthod gwelliant y Llywodraeth, gan fod y Llywodraeth yn gwrthod cydnabod yr angen am fwy o dryloywder a'r angen am ddyrannu gwell adnoddau i fynd i'r afael â'r problemau a godwyd yma. Bydd yn destun pryder dwfn, rwy'n gwybod, ac yn siom i lawer o aelodau o staff a chleifion a'u teuluoedd fod Llywodraeth Cymru yma yn dewis dileu o'r cynnig gwreiddiol yr angen i bawb sydd ynghlwm wrth y mater resynu at y diffyg atebolrwydd, ac i resynu at effaith ddinistriol y methiannau a welsom ar staff a chleifion a'u hanwyliaid. Cânt eu cythruddo gan y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod y galwadau am ymddiheuriad, am gynhyrchu adroddiadau mewn modd amserol yn y dyfodol, am gyflawni gwelliannau radical yn y modd y darperir gwasanaethau, am adolygiad sylfaenol o wasanaethau iechyd meddwl. Am sefydlu rhwydwaith o ganolfannau iechyd meddwl galw i mewn—mae Plaid Cymru wedi gofyn am fesurau o'r fath ers pedair blynedd. Rwyf wedi trafod gyda'r Dirprwy Weinidog y cynlluniau sydd ganddi hithau hefyd i roi mesurau ar waith, ond mae angen inni weld y mesurau hynny'n cael eu rhoi ar waith fel rhan o newidiadau eang i ddarpariaeth iechyd meddwl ledled Cymru.
Ond yma gyda Hergest a'r hyn a ddigwyddodd yno, mae gennym ddigwyddiadau trychinebus a arweiniodd at golli bywydau ac at ddioddefaint i lawer iawn o aelodau teuluol sydd wedi bod yn galaru yn sgil colli anwyliaid. Bydd cleifion, teuluoedd a llawer o staff y cefais sgyrsiau dwfn a thrallodus gyda llawer ohonynt dros y blynyddoedd yn gwrando'n astud ar yr hyn y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ddweud heddiw, oherwydd ni ddylid ystyried cyhoeddi'r adroddiad ei hun yn ddiwedd ar ymgyrch dros gyhoeddi'r adroddiad. Rhaid ei weld fel dechrau pennod newydd, a rhaid iddo ddangos ei fod yn ddechrau pennod newydd ar ôl yr hanes diflas iawn a welsom yn Hergest ac yn y gwasanaeth iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.