Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Arweiniodd y diwylliant o wrthwynebiad i graffu, i newid a her, wrth gwrs, at hierarchaeth bwrdd Betsi Cadwaladr yn gwrthod rhyddhau'r adroddiad hwn, er gwaethaf ceisiadau'r comisiynydd gwybodaeth, hyd yn oed. Bu'n rhaid i berthnasau mewn galar aros yn ddiangen oherwydd biwrocratiaeth nad oedd yn rhoi pobl yn gyntaf—rhoi ei fuddiannau ei hun a'i enw da ei hun yn gyntaf a wnaeth, ac wrth gwrs, wrth wneud hynny, roedd yn maeddu'r enw da hwnnw ymhellach fyth. Ac mae'n ymwneud â mwy na pherthnasau'n galaru am ddioddefwyr yn Hergest yn unig, wrth gwrs—meddyliwch am sgandal Tawel Fan a'r nifer fawr o deuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn y fan honno. Seiniwyd y larwm yn Hergest, a phe byddai'r bwrdd iechyd wedi talu sylw iddo drwy gyhoeddi adroddiad Holden yn amserol, efallai na fyddem wedi cael digwyddiadau Tawel Fan.
Nawr, rwy'n falch o weld rheolwyr bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn derbyn dros y misoedd diwethaf fod yn rhaid i bethau newid—mae hwnnw'n gam cadarnhaol iawn, ac wrth gwrs, mae i'w groesawu. Ond nid wyf yn naïf. Rydym wedi bod yma o'r blaen; rydym wedi cael y gwawriau ffug hyn yn y gorffennol—addo dysgu gwersi ac i fod yn fwy agored. Ond ni all bwrdd Betsi Cadwaladr fforddio gwneud mwy o addewidion a pheidio â chadw atynt. Felly, wrth ei flas y bydd profi'r pwdin, gan fod pob un ohonom yn derbyn ei bod yn anodd rhedeg y bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru, gyda demograffeg mor heriol, ac mae gofal iechyd meddwl yn arbennig yn her barhaus ar draws pob bwrdd iechyd, fel y clywsom yn gynharach, ac mae arnaf ofn fod yr heriau hynny'n cynyddu wrth gwrs.
Ni allaf dderbyn y gwelliant a gynigiwyd gan y Llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth hon gyfrifoldeb uniongyrchol am y methiannau ym mwrdd Betsi Cadwaladr oherwydd yr amser a dreuliodd, fel y clywsom, mewn mesurau arbennig. Byddai'n well pe bai'r Llywodraeth yn ystyried y rhan a chwaraeodd yn y problemau sydd wedi amharu ar y bwrdd iechyd dros y degawd diwethaf. Ble roedd arweinyddiaeth y Llywodraeth pan oedd y bwrdd o dan ei rheolaeth uniongyrchol? Pam na wnaethoch chi gael gwared ar y diwylliant o gelu a llusgo'r bwrdd iechyd allan o'r llanastr hwn? Felly, rydym bellach yn symud ymlaen, ac mae angen llawer mwy o dryloywder ac atebolrwydd gan y rhai sy'n gyfrifol am redeg ein gwasanaethau cyhoeddus.
Nawr, hoffwn sôn yn benodol am wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Gwyddom am yr ôl-groniadau cwbl annerbyniol wrth ymdrin ag achosion acíwt o salwch meddwl mewn plant, a gwn fod y Dirprwy Weinidog yn boenus o ymwybodol o hynny, ac maent yn broblemau sydd wedi cael effeithiau trawmatig ar bobl ifanc, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach. Ac mae'r pandemig, fel y gwyddom, wedi dwysáu'r problemau hyn, felly mae'n rhaid inni ystyried dwysáu'r cymorth hefyd. A dyna pam fy mod yn falch fod cytundeb cydweithio Plaid Cymru gyda’r Llywodraeth yn ymrwymo i edrych ar sut y gallwn brofi cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys y trydydd sector yn arbennig, i geisio datblygu’r llwybrau atgyfeirio clir at wasanaethau’r GIG a all helpu i gefnogi pobl ifanc mewn argyfwng, neu'r rheini sydd â phroblemau iechyd meddwl brys neu broblemau lles emosiynol.
Ni ddylai'r methiannau yn Hergest fod wedi digwydd, ac yn sicr, ni ddylai'r holl ffars o beidio â chyhoeddi adroddiad Holden yn llawn fod wedi digwydd. Felly, gadewch inni obeithio yn awr fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi dysgu ei wers o'r diwedd ac y bydd yn dechrau mynd i'r afael â'r methiannau difrifol mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Nawr, byddai hynny'n waddol hwyr ond yn un cadarnhaol a pharhaol, gobeithio, i bawb a gafodd gam mewn modd mor drasig.