Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, gan fy mod wedi gweithio ym mwrdd Betsi Cadwaladr am 11 mlynedd, a bûm yn gweithio am bedair blynedd ym maes iechyd meddwl fel gweithiwr cymorth, felly hoffwn feddwl bod y pwnc trafod hwn yn weddol agos at fy nghalon. Er bod adroddiad Holden yn canolbwyntio ar fethiannau uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, mae ganddo oblygiadau i gleifion ledled gogledd Cymru, ac mae'n atgoffa llawer o fy etholwyr yn rhy glir o'r methiannau yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl.
Mae 11 mlynedd wedi bod ers yr arolygiadau cyntaf ar ward Glan Traeth yn Ysbyty Brenhinol Alexandra, a saith mlynedd ers cyhoeddi adolygiad Ockenden, a gynhaliwyd o ganlyniad i fethiannau difrifol yn uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, ond mae llawer o fy etholwyr yn teimlo, er gwaethaf cyfres o adolygiadau a blynyddoedd mewn mesurau arbennig, fod rheolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn esgeuluso cleifion a staff sy'n gweithio i'r bwrdd iechyd.
Ychydig cyn y pandemig, nododd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd broblemau staffio yn y bwrdd iechyd. Fe wnaethant dynnu sylw at y diffyg cynnydd ar weithredu argymhellion adolygiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adolygiad Ockenden. Fe wnaeth y pwyllgor fwrw amheuon hefyd ar y gallu i ddod â'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig. Fodd bynnag, ar anterth y pandemig, ac ychydig fisoedd cyn etholiadau’r Senedd, daethpwyd â'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig, fel y nododd Janet Finch-Saunders a Sam Rowlands, er mawr syndod i gleifion a staff ledled gogledd Cymru—felly, darllenwch rhwng y llinellau ar hynny.
Mae pryderon difrifol yn parhau ynghylch y ddarpariaeth iechyd meddwl ar draws y bwrdd iechyd. Mae tri chwarter y plant a'r bobl ifanc ledled y rhanbarth yn aros yn hwy na'r 28 diwrnod a argymhellir am asesiad. Gwyddom yn rhy dda fod y pandemig wedi cael effaith aruthrol ar iechyd meddwl pobl ifanc ledled Cymru, ond er hynny, mae'r rheini sy'n byw yn fy etholaeth yn parhau i gael eu gwasanaethu gan wasanaeth sy'n methu, un y bu sôn amdano ers degawdau ond sy'n parhau i wneud tro gwael â'r rheini y mae'n eu gwasanaethu er gwaethaf ymdrechion gorau staff anhygoel y GIG, sy'n mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau bob dydd—staff sy'n parhau i gael eu gorlethu â gwaith gan uwch reolwyr nad ydynt yn eu gwerthfawrogi'n llawn, ac yn anffodus, nid gwasanaethau iechyd meddwl yn unig sy'n dioddef yng ngogledd Cymru. Mae prinder staff yn parhau i roi diogelwch cleifion mewn perygl—i'r graddau fod meddygon yn Ysbyty Glan Clwyd wedi teimlo rheidrwydd i ysgrifennu at y bwrdd iechyd i rybuddio am orlenwi a chleifion yn aros drwy'r dydd i gael eu gweld. Rhybuddiodd meddygon fod adrannau brys mor orlawn fel bod ymyriadau brys ar gyfer sepsis, strôc, gofal y galon, trawma mawr a dadebru yn cael eu peryglu.
Mae fy etholwyr yn bryderus iawn ynglŷn â sut y mae'r GIG yn cael ei redeg yng ngogledd Cymru, a hynny'n briodol. Rhan fach o'r broblem yw'r methiannau difrifol yn yr uned iechyd meddwl, yn anffodus. Mae angen diwygio gofal iechyd meddwl ar frys ar draws bwrdd Betsi Cadwaladr, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig, ond rwy'n gofyn hefyd y prynhawn yma i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r argyfwng cynyddol yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Diolch.