7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi bwyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 8 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:26, 8 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Clywch clywch, Jane Dodds. Cytunaf yn llwyr â'ch safbwynt terfynol yno. Fel rydym i gyd yn gwybod o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain, roedd y defnydd o fanciau bwyd wedi bod yn cynyddu ers blynyddoedd cyn y pandemig, gydag Ymddiriedolaeth Trussell yn dweud bod y galw am fanciau bwyd yn eu rhwydwaith wedi cynyddu 128 y cant rhwng 2015 a 2020. Yn ystod y pandemig, mae hyn wedi cynyddu'n gyflym ac yn sylweddol, gydag Ymddiriedolaeth Trussell yn nodi cynnydd o 11 y cant yn y galw rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Yng Nghymru, dosbarthodd Ymddiriedolaeth Trussell dros 145,828 o barseli bwyd argyfwng tri diwrnod i aelwydydd yng Nghymru dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Gadewch i'r ffigur hwnnw suddo i mewn: 145,828 o barseli bwyd argyfwng tri diwrnod mewn un flwyddyn yma yng Nghymru.

Yn fy rhanbarth i yng Nghanol De Cymru, hoffwn roi rhai enghreifftiau. Rhannodd banc bwyd Taf-Elái yn ddiweddar eu bod wedi rhoi 1,163 o barseli banc bwyd allan, a bod 397 o'r rhain ar gyfer plant. Ym mis Hydref, nododd banc bwyd y Fro ei fod wedi bod ar agor ers 10 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd wedi darparu 36,000 o barseli bwyd i bobl leol mewn argyfwng. A nodwch y gair 'nodi', yn hytrach na 'dathlu' cyrraedd y garreg filltir hon, gan nad oes dim i'w ddathlu yn y ffaith bod banciau bwyd wedi gorfod dod mor gyffredin ledled Cymru. Byddwn yn gobeithio ein bod i gyd yn unedig yn y farn na ddylai banciau bwyd, o dan unrhyw amgylchiadau, ddod yn rhan sefydliadol o gymdeithas Cymru.

Nid yw'r ffigurau hyn ar eu pen eu hunain yn egluro maint y defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru yn llawn, gan fod y ffigurau ond yn ymwneud â banciau bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell, ac nid y cannoedd o ddarparwyr cymorth bwyd annibynnol a grwpiau cymunedol sydd hefyd yn darparu cymorth, megis Rhondda Foodshare a'r pantri cymunedol yng Nghilfynydd. Ac er bod 200,000 o blant a'u teuluoedd yn mynd yn llwglyd yng Nghymru, onid yw'n greulon o eironig fod gennym broblem enfawr ar yr un pryd gyda gwastraff bwyd, gyda thua 500,000 tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yma yng Nghymru bob blwyddyn? Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod hyn yn 1.3 biliwn tunnell o fwyd sy'n cael ei wastraffu neu ei golli bob blwyddyn—traean o gyfanswm y bwyd a gynhyrchir ar gyfer pobl. Roeddwn yn arswydo wrth ddarllen mewn erthygl ddiweddar yn The National gan Leanne Wood fod Tesco, mewn cyfarfod diweddar a gynhaliwyd rhwng Gweinidogion Llywodraeth y DU ac archfarchnadoedd mawr, wedi cyfaddef bod 50 tunnell o fwyd bwytadwy yn cael ei daflu bob wythnos oherwydd prinder gyrwyr.

Er bod mentrau blaenorol Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i helpu i leihau gwastraff bwyd, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno bod mwy i'w wneud, ac mae mesurau y gallai Llywodraeth Cymru eu harchwilio i fynd i'r afael â'r broblem yn cynnwys annog pob busnes yng Nghymru i ymrwymo i dargedu, mesur a gweithredu ar wastraff bwyd; annog busnesau yng Nghymru i ddangos eu cyfrifoldeb cymdeithasol drwy lofnodi ymrwymiad Courtauld 2024 i fynd i'r afael â gwastraff bwyd a chefnogi ailddosbarthu; a hefyd, gallem gynnwys gwastraff bwyd fel ffactor yng nghontract economaidd Llywodraeth Cymru.

Hoffwn gloi fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ystyried pam rwy'n cefnogi'r cynnig heddiw. Er y gall gollwng ychydig o roddion i fanc bwyd—rhywbeth y mae pob un ohonom wedi'i wneud yn ddi-os—fod yn arwydd gweladwy o gefnogaeth i fynd i'r afael ag ansicrwydd a newyn bwyd, fel gwleidyddion nid yw hyn yn ddigon. Mae'r cynnig heddiw yn ymrwymo pob un ohonom i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd maethlon i'w fwyta. Ni ddylai neb fod yn llwglyd yng Nghymru yn 2021. Ni ddylai cymorth bwyd ychwaith ddisodli'r urddas a'r dewis a roddir i'r rhai ar incwm uwch, fel ni ein hunain. Wrth ddiolch i fanciau bwyd a'u gwirfoddolwyr am bopeth a wnânt, gadewch inni ymrwymo heddiw hefyd i weithio i sicrhau nad oes angen iddynt fodoli. Bydd honno'n adeg i ddathlu.