Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Rwy'n siarad i gefnogi'r prif gynnig, sy'n cefnogi'r hawl i fwyd. Nodwyd yr hawl i fwyd yng nghyfamod rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a gadarnhawyd gan Lywodraeth y DU yn ôl yn 1976, ac mae'n dweud:
'Gwireddir yr hawl i fwyd digonol pan fydd gan bob dyn, menyw a phlentyn, ar ei ben ei hun neu yn y gymuned gydag eraill, fynediad ffisegol ac economaidd bob amser at fwyd digonol neu fodd o'i gaffael'.
Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod sicrhau diogelwch bwyd i bawb felly yn rhagofyniad ar gyfer gwireddu'r hawl ddynol hon. Ar y diffiniad hwn—y diffiniad cyfreithiol hwn—rydym yn methu yn y dyletswyddau o dan gyfamod y Cenhedloedd Unedig ar yr hawl i fwyd, fel y mae'r cynnydd yn nifer y banciau bwyd yn tystio.
Yn ôl yn 2010, pan oeddwn yn AS, pan oedd Llafur mewn grym, roedd un banc bwyd yn gweithredu yn fy etholaeth i, sef Ogwr—un. Roedd wedi'i leoli yn Eglwys y Bedyddwyr Bethel ym Mhont-y-clun. Erbyn hyn mae gennym fanciau bwyd ym mhob cymuned. Mae ystadegau o rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yn tynnu sylw at y galw cynyddol am fanciau bwyd ers 2010 ac oes cyni. A thros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae wedi dyfnhau ymhellach yn sgil effaith y pandemig. Bydd rhai'n dweud, fel y clywsom yma heddiw, fod y cynnydd mewn banciau bwyd yn Ogwr ac ar draws y DU yn wir, yn dyst i haelioni gwirfoddolwyr a rhoddion gan y cyhoedd. Yn sicr. Ond gadewch i ni beidio â chuddio rhag y ffaith bod hyn hefyd yn arwydd erchyll o ddegawd o gyni cosbol a pholisïau lles sy'n gorfodi'r rhai sy'n agored i niwed, gan gynnwys teuluoedd sy'n gweithio, i ddibynnu ar fanciau bwyd. Ac mae'n fethiant parhaus, a wnaed yn waeth yn ystod y pandemig. Bydd unrhyw un sy'n gwirfoddoli mewn banc bwyd yn dweud, 'Mae'n arwydd o fethiant arweinwyr gwleidyddol eu bod yn bodoli o gwbl.' Rhaid iddynt fod yno; nid ydynt eisiau bod yno.
Y llynedd, darparodd Ymddiriedolaeth Trussell ei hadroddiad diweddaraf, fel y nodwyd. Dangosodd effaith gynyddol y pandemig ar y rhai a oedd eisoes wedi'u dinistrio gan ddegawd o gyni a thoriadau i nawdd cymdeithasol a llai o gymorth i'r rhai ar gyflogau isel. Roedd yn ddigon drwg drwy'r 2010au, ond mae banciau bwyd bellach yn darparu 130 y cant yn fwy o barseli bwyd argyfwng na'r hyn a wnaent bum mlynedd yn ôl. Gwelwyd cynnydd o draean yn nifer y parseli bwyd argyfwng a ddosbarthwyd ers y flwyddyn flaenorol yn unig, gyda 2.5 miliwn o barseli bwyd argyfwng yn yr unfed ganrif ar hugain wedi'u dosbarthu i bobl mewn argyfwng dros y flwyddyn. Yng Nghymru, mae'r cynnydd wedi codi o bron i 88,000 bum mlynedd yn ôl i 146,000 o barseli bwyd argyfwng yng Nghymru eleni. Mae'n gyfartaledd o ddau barsel y funud yn cael eu dosbarthu i deuluoedd â phlant—cynnydd o 36 y cant o un flwyddyn i'r llall. Yng Nghymru, rhoddwyd un parsel i deulu bob 10 munud. Mae hyn yn warthus. A rhan fach iawn o'r darlun truenus yw hyn. Fel y soniwyd, ni chafodd dros 500 o ddarparwyr cymorth bwyd annibynnol ychwanegol a gefnogir drwy'r Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol mo'u cynnwys, na'r amrywiaeth o ddarparwyr bwyd cymunedol sydd hefyd yn gweld patrymau tebyg. Nawr, nid oes gennym yr holl ysgogiadau at ein defnydd yn Llywodraeth Cymru i ddatrys y broblem gynyddol hon, ond mae gennym arfau pwerus a all helpu i lenwi'r bwlch newyn a adawyd gan bolisïau'r DU.
Y £52 miliwn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod disgyblion cymwys yn cael darpariaeth yn lle eu prydau ysgol am ddim arferol tra byddant yn methu mynychu'r ysgol yn ystod y pandemig—fe helpodd hynny'n fawr, a gwelais hynny ar lawr gwlad yn fy etholaeth i. Y £5 miliwn ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol hefyd—rwyf wedi ymweld â'r cynlluniau hynny yn fy ardal i; rwyf wedi'u gweld yn gweithio ac rwyf wedi gweld y lles a wnânt. Yn ddiweddar ymwelais â Big Bocs Bwyd—prosiect BBB—yn ardal tasglu'r Cymoedd. Mae'n helpu plant i ddatblygu dealltwriaeth gynnar o ddewisiadau bwyd iach, tra'n darparu bwyd am bris fforddiadwy i deuluoedd mewn cymunedau sydd angen cymorth. Gallwn weld hyn mewn mannau fel ysgol Garth yng nghwm Llynfi yn fy etholaeth; mae'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn barod.
Wrth gwrs, fel y crybwyllwyd, rydym yn croesawu'r cyhoeddiad yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i roi trefniadau ar waith dros y blynyddoedd nesaf i ddarparu pryd ysgol maethlon am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru—pob un ohonynt—fel na ddylai unrhyw blentyn byth fod yn yr ysgol yn llwglyd, a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i fenter pantri bwyd anhygoel yn fy ardal i a rhannau eraill o'r Cymoedd, sy'n darparu miloedd o fagiau o fwyd fforddiadwy i drigolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae angen i Lywodraeth y DU chwarae eu rhan; fel arall, rydym bob amser yn nofio yn erbyn llanw sy'n ysgubo'r rhai agored i niwed a'r rhai ar gyflogau isel ymaith. Ond nid oes amheuaeth y gallwn hefyd wneud llawer ein hunain drwy Lywodraeth Cymru weithredol, sy'n canolbwyntio ar dlodi bwyd yn ogystal â thlodi cyffredinol, a chefnogaeth y Senedd hon. Gadewch inni wneud yr hawl i fwyd yn real i bawb.