Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun i ddileu'r cynnydd o £20 yn y credyd cynhwysol, rhaid imi ddweud mai Ymddiriedolaeth Trussell a ddarparodd ymchwil, gan arolygu pobl y byddai'r toriad arfaethedig hwnnw'n effeithio arnynt, ac fe wnaed y toriad wedyn. Dywedodd un o bob pedwar o bobl y byddai'n debygol iawn y byddai angen iddynt fynd heb brydau bwyd pe bai'r toriad i'r credyd cynhwysol yn mynd yn ei flaen, ac fe wnaed y toriad er gwaethaf dadleuon cryf a wnaed yn y Siambr hon gan Lywodraeth Lafur Cymru, ledled y DU, lleisiau trawsbleidiol o blith y Torïaid hefyd, a chan yr elusennau sy'n flaenllaw ym maes trechu tlodi plant. Ac mae'r galw am ddarpariaeth bwyd argyfwng wedi cynyddu'n sylweddol ac yn parhau i dyfu wrth i aelwydydd sy'n agored i niwed brofi'r dirywiad economaidd yn sgil y pandemig—rydym yn cydnabod hynny ar draws y Siambr—lefelau cynyddol o ddyled, cynnydd yng nghostau byw, mae pob un ohonynt wedi cael effaith andwyol. Ond yn y ddadl rymus hon ar fynd i'r afael â thlodi bwyd, mae angen inni ystyried yr achosion yn ogystal â'r cyfrifoldebau dros roi camau priodol ar waith.
Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau ar gyfer lleihau lefelau tlodi yng Nghymru, pwerau dros y system drethiant a'r system nawdd. Serch hynny, mae llawer y gallwn ei wneud fel Llywodraeth Cymru i atal tlodi, lleihau ei effaith a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n deillio o fyw mewn tlodi. Ac mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i ddiogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n agored i niwed a gwella canlyniadau i aelwydydd incwm isel. Mae ein cefnogaeth i'r cyflog cymdeithasol, drwy fentrau fel y cynnig gofal plant, ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, darparu prydau ysgol am ddim—ac fe af ymlaen at hynny—wedi golygu bod mwy o arian ar ôl ym mhocedi dinasyddion Cymru.
Ac rwy'n ymuno â Luke Fletcher, a agorodd y ddadl hon mor rymus, ac Aelodau ar draws y Siambr, ar yr ochr hon, i groesawu'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru, gyda chefnogaeth Jane Dodds i'r ymrwymiad i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd dros oes y cytundeb. Ac mae hyn yn weithredu trawsnewidiol. Bydd yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn yr ysgol gynradd yn cael ei adael yn llwglyd. Bydd yn allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant, gan leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Bydd darparu pryd iach fel rhan o'r diwrnod ysgol yn helpu i annog arferion ac agweddau bwyta'n iach, ac mae'n ddysgu ymarferol a gaiff ei atgyfnerthu gan y cwricwlwm newydd i Gymru, maes iechyd a lles dysgu a phrofiad, i helpu dysgwyr i ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd a lles corfforol, gan gynnwys ymddygiadau hybu iechyd, megis maeth a deiet cytbwys.
Yn ystod yr haf, cyfarfûm â'r rhai sy'n gweithredu cynllun chwarae gwyliau'r haf Wrecsam ym Mharc Caia ac yn etholaeth Mike Hedges, ymwelais â'r prosiect Ffydd mewn Teuluoedd yn y ganolfan deuluol ym Môn-y-maen. Ac roedd hi'n bwysig siarad â'r rhieni a oedd yn cymryd rhan lawn yn y prosiect hwnnw ac a oedd wedi cael hunan-barch ac anogaeth i allu cefnogi eu teuluoedd ac edrych ar gyfleoedd ar gyfer eu hyfforddiant, eu haddysg bellach a'u cyflogaeth eu hunain. Roeddwn yn gallu deall y gwaith hanfodol a wnaed yn y cymunedau hynny, ac mae llawer ohonoch wedi tynnu sylw atynt o brosiectau rydych yn eu cefnogi ar draws y Siambr hon.
Nid oes amheuaeth y bydd cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd yn lleddfu peth o'r pwysau ariannol sydd ar lawer o'r teuluoedd y maent yn eu cefnogi. Ond hefyd, yn bwysig, bydd yr ymrwymiad i brydau ysgol am ddim yn ein galluogi i ddefnyddio ein hysgogiadau i sbarduno caffael cyhoeddus a chynyddu cynhyrchiant bwyd lleol—rwy'n siŵr y bydd Peter Fox yn cael ei annog gan hynny—a dosbarthu. Yn ei dro, bydd o fudd i economïau, ecolegau a chymunedau lleol. A bydd yn digwydd ochr yn ochr â datblygu'r strategaeth bwyd cymunedol, gyda bwyd yn ffactor cyffredin. Mae ganddo'r potensial i wella iechyd meddwl a chorfforol dinasyddion Cymru, a chododd Delyth Jewell y pwynt pwysig hwn. Gall hefyd sicrhau'r manteision hynny i gymdeithas—manteision economaidd, amgylcheddol a chynaliadwy i helpu i adfywio ein cymunedau.
Ac am y drydedd flwyddyn yn olynol, rydym wedi dyrannu £2 filiwn i sefydliadau bwyd cymunedol i helpu i drechu tlodi bwyd a mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd. Rydym wedi cynyddu ein cyllid i FareShare i £500,000 eleni a dros y degawd diwethaf, maent wedi dosbarthu'r hyn sy'n cyfateb i 11 miliwn o brydau bwyd i bobl a oedd eu hangen, ac ar hyn o bryd maent yn darparu bwyd dros ben o ansawdd i tua 180 o sefydliadau cymunedol ac elusennau yng Nghymru, ac mae llawer o'r rheini'n gadarnhaol iawn yn y ffordd y maent yn ymgysylltu â'u cymunedau i ddarparu bwyd hygyrch. Rwy'n falch iawn fod Huw Irranca-Davies wedi crybwyll Big Bocs Bwyd, sydd eisoes wedi ennill gwobr yn sgil ei ddechrau yn ysgolion cynradd y Barri, gan gyflwyno'r prosiect i fwy nag 20 o ysgolion yn ardal parc rhanbarthol y Cymoedd. Ac wrth gwrs, ceir dealltwriaeth hefyd fod bwyd ac ymgysylltiad dychmygus FareShare, sef yr hyn y maent yn ei ddefnyddio, yn darparu bwyd fforddiadwy i deuluoedd, ond mae'n meithrin gwerthfawrogiad ehangach o'r cysylltiadau rhwng bwyd, natur a'r economi. Ond hefyd, yn rhan o'r gronfa £51 miliwn o gymorth i aelwydydd y mis diwethaf, bydd £1.1 miliwn yn mynd tuag at drechu tlodi bwyd, gan helpu'r banciau bwyd rydych i gyd yn eu cefnogi ledled Cymru gyda'r pwysau uniongyrchol y maent yn ei wynebu.
Gwyddom mai bod heb ddigon o arian yw prif achos tlodi bwyd, felly mae hyn yn bwysig os byddwn yn ei gysylltu â'r ymgyrch genedlaethol i annog defnydd o fudd-daliadau, gan godi ymwybyddiaeth pobl o'r cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, a'u hannog i ffonio Advicelink Cymru am gymorth a chyngor am ddim, a chynyddu incwm, a bydd ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn gweld £38 miliwn yn mynd tuag at gefnogi aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau lles oedran gweithio ar sail prawf modd i leddfu'r pwysau uniongyrchol ar gostau byw y gaeaf hwn. Yn wir, fe wnaethom drafod hynny yr wythnos diwethaf yn y ddadl ar dlodi tanwydd. Ac mae gennym ein cronfa cymorth dewisol. Dyma'r holl ysgogiadau, y ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru ddewis blaenoriaethu'r ffordd y gwariwn ein hadnoddau. Mae ein cronfa cymorth dewisol yn hanfodol i helpu pobl mewn argyfwng ariannol i ymateb i rai o'r heriau ariannol a wynebant, gan gynnwys talu costau bwyd a thanwydd. Ac ym mis Mawrth, cyhoeddwyd £10.5 miliwn arall gennym i barhau'r gefnogaeth ddigynsail i'r rhai sydd angen y gronfa cymorth dewisol ac sydd angen yr hyblygrwydd, ac rydym yn parhau'r hyblygrwydd hwnnw o ganlyniad i effaith andwyol y pandemig.
Rydym hefyd yn cymryd camau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar dalebau Cychwyn Iach—ac mewn gwirionedd, rwy'n cyfarfod â Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles—gan wybod y gall y rhain hefyd ddarparu £4.25 i deuluoedd ifanc ar incwm isel bob wythnos i brynu llaeth, fitaminau a bwydydd sy'n gwella maeth plant. Rydym yn glir ynglŷn â'n hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi. Mae'n thema drawsbynciol ym mhroses gynllunio'r gyllideb. Bydd yn helpu i sicrhau bod tlodi yn ganolog i bolisi a darparu gwasanaethau, ond rhaid i mi ddweud bod hon yn adeg heddiw pan fo'n rhaid inni edrych ar bwy sy'n gyfrifol, beth yw'r achosion, a gwnaed penderfyniadau niweidiol gan Lywodraeth y DU, megis toriadau i gymorth lles a mwy nag 11 mlynedd o gyni sydd wedi gwthio mwy o aelwydydd agored i niwed yng Nghymru i mewn i dlodi.
Byddwn yn ysgwyddo ein cyfrifoldeb fel Llywodraeth Cymru, a gobeithio y bydd Llywodraeth y DU a'r blaid, a'r Ceidwadwyr Cymreig, yn ysgwyddo'u cyfrifoldebau hefyd. Mae gennym y dystiolaeth: Trussell Trust, Plant yng Nghymru, Sefydliad Bevan, Sefydliad Joseph Rowntree. Os chwaraewn ein rhan gyda'n pwerau a'n hadnoddau ni, rhaid i Lywodraeth y DU chwarae eu rhan lawer mwy hwythau. Rwy'n croesawu ac yn cefnogi'r cynnig a'r ddadl hon. Diolch.