Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, sydd, wrth gwrs, yn gynnig y byddwn yn ei gefnogi, gan ein bod yn wynebu sefyllfa ddifrifol pan fo elusennau fel Ymddiriedolaeth Trussell wedi rhybuddio y bydd llawer o aelwydydd incwm isel yn wynebu dewisiadau llwm iawn iddynt eu hunain a'u teuluoedd y gaeaf hwn. Ac mae hynny wedi cael ei adlewyrchu'n helaeth yn y ddadl rymus hon.