1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2021.
2. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â chyfraddau ailgylchu yng Nghaerdydd? OQ57356
Diolch yn fawr i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Mae Gweinidogion a swyddogion wedi bod yn trafod yn uniongyrchol â Chyngor Caerdydd am ei berfformiad ailgylchu, ac mae’r trafodaethau hynny yn parhau.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae yn siomedig bod cyfraddau ailgylchu Caerdydd gyda’r gwaethaf yng Nghymru. O’r tri awdurdod lleol wnaeth fethu â chyrraedd y targed o 64 y cant ym Mesur Gwastraff (Cymru) 2010, Caerdydd yw’r gwaethaf o bell ffordd, ar 55.8 y cant. A dwi’n siŵr bod cau canolfannau ailgylchu yn Heol Wedal a Heol Waungron yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith wael, ond disgwyliedig, ar y cyfraddau ailgylchu. Ond nid yn unig y mae’r gyfradd ailgylchu yn isel, dyw e ddim yn glir pa fath o ailgylchu sy’n digwydd. Mae’n bwysig yn amgylcheddol ac yn economaidd fod gwastraff yn cael ei addasu yma yng Nghymru at ddibenion gwahanol yn hytrach na mynd dramor, yn enwedig, yn rhy aml o lawer, i wledydd difreintiedig. Felly, sut mae modd cynyddu’r cyfraddau ailgylchu yma yng Nghaerdydd a sicrhau bod gwastraff Cymru yn cael ei ailgylchu a’i ailaddasu yma yng Nghymru? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr am y cwestiynau ychwanegol. Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio’n galed i dreial gwneud mwy i roi’r ffigurau ailgylchu yn y lle ble rŷn ni i gyd eisiau eu gweld nhw. Bydd strategaeth newydd o flaen y cabinet yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos hon ac, fel rwy’n siŵr fod yr Aelod yn gwybod, maen nhw’n mynd i dreial mas nifer o bethau newydd yng Ngorllewin Caerdydd, y lle rwyf i'n ei gynrychioli. Yn Radyr a Llandaf, ym mis Ionawr, bydd system newydd ar waith i dreial rhoi mwy o bethau mewn lle i godi’r ffigurau ailgylchu yn y ddinas. Mae’r swyddogion wedi gweithio’n galed gyda Chyngor Caerdydd i weld beth sydd y tu ôl i’r ffigurau ac mae rhai pethau sydd yn berthnasol i Gaerdydd—mae nifer y tai sy'n HMOs, fel rŷn ni'n eu galw nhw yn Saesneg, yn heriol i Gyngor Caerdydd, ond mae cynllun newydd gyda nhw, a dwi'n hyderus y bydd hwnna'n cael effaith bositif ar y ffigurau.
A dwi'n gwybod, Llywydd, fod y Gweinidog Julie James wedi ymateb i gwestiynau ar lawr y Cynulliad ac wedi rhoi gwybodaeth fanwl am ble mae popeth rŷn ni'n ei gasglu gyda'i gilydd i'w ailgylchu yn mynd. Ac mae mwy na hanner yn cael ei ddelio ag e yma yng Nghymru, ac mae tua 30 y cant yn mynd dros y ffin i Loegr, ac mae rhai pethau yn mynd dramor. Ond mae cynllun gyda ni i dynnu nôl ar faint sydd yn mynd dramor ac i wneud mwy gyda phopeth rŷn ni eisiau ei ailgylchu yma yng Nghymru.
Rwy'n mynd i alw Joel James nawr.
Diolch, Llywydd. Mae Cyngor Caerdydd, fel y mae'r Aelod blaenorol wedi ei esbonio, wedi methu'n gyson â chyrraedd y targedau ailgylchu a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r cyngor wedi rhagweld y bydd yn rhaid iddo fuddsoddi mewn ailgylchu eilaidd er mwyn eu cyrraedd nhw. Yn wrthnysig, nid oes ganddyn nhw'r gyllideb i weithredu ailgylchu eilaidd, ac mae'r cyngor yn rhagweld y bydd y ddirwy amcangyfrifedig y byddan nhw'n ei hwynebu, oherwydd nad ydyn nhw'n cyrraedd eu targedau ailgylchu, yn fwy na £10 miliwn erbyn 2025. Fel yr wyf i'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno, mae er budd pawb gweld Cyngor Caerdydd yn cyrraedd y targedau ailgylchu hyn, ac i'r cyngor allu buddsoddi mewn ailgylchu eilaidd. Yn wir, gallen nhw hyd yn oed gynhyrchu refeniw iddyn nhw eu hunain drwy wneud y buddsoddiad hwn a chael mynediad at farchnadoedd ailgylchu o ansawdd uchel y bydd y buddsoddiad hwn yn eu hagor. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog esbonio pa gyllid sydd ar gael i gynghorau fel Caerdydd sy'n caniatáu iddyn nhw wneud y gwelliannau hyn, a pha fuddsoddiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gael mynediad at y marchnadoedd ailgylchu o ansawdd uchel hyn y gallai economi Cymru elwa arnyn nhw?
Wel, rwy'n cytuno â'r Aelod bod cyfleoedd i Gaerdydd fel awdurdod lleol wneud yr hyn yr wyf i'n gwybod y mae'r awdurdod lleol ei hun eisiau ei wneud, sef arallgyfeirio'r polisïau sydd ganddo ar waith a darparu gwell gwasanaethau ar gyfer ei drigolion ei hun, ac yn wir, o bosibl, gallu darparu gwasanaethau i eraill hefyd. Rwy'n credu y dylwn i egluro, Llywydd, bod system ddirwyo wedi'i nodi yn ein rheoliadau. Mae gan Weinidogion ddisgresiwn yn y ffordd gyfyngedig hon: gall Gweinidogion benderfynu naill ai i ddirwyo yn llawn neu i beidio â dirwyo o gwbl—nid oes sefyllfa hanner ffordd ar gael yn ein rheoliadau, ac nid oes gan Weinidogion ddisgresiwn chwaith dros faint y ddirwy. Mae hynny yn cael ei bennu gan fformiwla y mae'r rheoliadau, unwaith eto, yn ei nodi. Felly, nid oes dim byd anochel ynghylch awdurdodau lleol yn cael eu dirwyo, ac, yn y gorffennol, mae Gweinidogion wedi gwneud penderfyniadau erioed ar y sail a oes gan awdurdodau lleol gynlluniau credadwy ar waith i roi eu hunain yn y sefyllfa y mae'r mwyafrif llethol o awdurdodau lleol ynddi yng Nghymru, a chydymffurfio â'r targed yw honno.
Ers datganoli, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 biliwn mewn ailgylchu cartrefi, ac mae llawer iawn o'r arian hwnnw yn mynd i awdurdodau lleol i'w cynorthwyo i greu'r amodau lle mae'r ffigurau da iawn yr ydym ni'n eu gweld yng Nghymru yn rhagori ar ein targed ar sail Cymru gyfan, gyda nifer o awdurdodau lleol yn rhagori ar y targed o 70 y cant sydd y tu hwnt i ni ac na fyddai wedi bod yn bosibl heb fuddsoddiad sylweddol iawn. Mae Caerdydd wedi elwa arni, ond mae'n system y mae'n rhaid iddi fod yn deg i bob awdurdod lleol a gwneud yn siŵr y gellir cynnal y cynnydd—y cynnydd sylweddol iawn y mae pob awdurdod lleol, gan gynnwys Caerdydd, wedi ei wneud—i'r dyfodol.
Fel y gallwch chi ddweud o rai newidiadau gwyllt o glustffonau ar fy rhan i, rwy'n cael trafferth clywed popeth sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac mae honno yn sefyllfa beryglus iawn i Lywydd fod ynddi. Felly, bydd angen i mi alw toriad technegol byr, a byddwn yn ailddechrau cyn gynted ag y gellir datrys fy mhroblem. Toriad technegol byr, felly.