Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r pandemig COVID-19 yng Nghymru. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, dwi'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, canlyniad y bleidlais yw bod 28 o blaid, neb yn ymatal, a 29 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.