9. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 5:23 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:23, 15 Rhagfyr 2021

Dyma ni, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl gan Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar y broses gydsyniad deddfwriaethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enwau Rhys ab Owen, Alun Davies, Heledd Fychan a Jane Dodds. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, 19 yn ymatal ac 15 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Y broses cydsyniad deddfwriaethol: O blaid: 22, Yn erbyn: 15, Ymatal: 19

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 3325 Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Y broses cydsyniad deddfwriaethol

Ie: 22 ASau

Na: 15 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 4 ASau

Wedi ymatal: 19 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:24, 15 Rhagfyr 2021

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r pandemig COVID-19 yng Nghymru. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, dwi'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, canlyniad y bleidlais yw bod 28 o blaid, neb yn ymatal, a 29 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru (Cynnig heb ei ddiwygio): O blaid: 28, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 3326 Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru (Cynnig heb ei ddiwygio)

Ie: 28 ASau

Na: 28 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 4 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:25, 15 Rhagfyr 2021

Mae hynny'n golygu ein bod ni'n mynd ymlaen at bleidlais ar welliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, dwi'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant, o dan Reol Sefydlog 6.20. Felly, mae'r gwelliant hefyd wedi'i golli o 29 pleidlais i 28, sy'n golygu bod y gwelliant a'r cynnig heb eu derbyn, ac felly does dim wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 28, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 3327 Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths

Ie: 28 ASau

Na: 28 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 4 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:26, 15 Rhagfyr 2021

Dyna ni ddiwedd ar ein gwaith am y flwyddyn eleni, o bosib. Pob dymuniad da i chi i gyd, fel Aelodau—. Ond, ar y weithred olaf honno, dwi'n anghywir. Nid dyna ddiwedd ein gwaith ni am y flwyddyn. Mae'r ddadl fer dal i'w chynnal.