Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Hoffwn gymharu Abertawe â dinas sy'n cyfateb iddi, Aarhus, sef y ddinas fwyaf ond un yn Nenmarc, a Mannheim, sef ei gefell ddinas yn yr Almaen. Mae'r data economaidd ar gyfer y ddwy ardal yn ddiddorol, ond, fel un o drigolion bae Abertawe, yn ddigalon. Yn rhanbarth metropolitanaidd Mannheim, mae ei werth ychwanegol gros yn 147 y cant o'r cyfartaledd Ewropeaidd, ond yn ninas Mannheim, mae'n 210 y cant, o'i gymharu ag ardal fetropolitan Abertawe ar 75 y cant ac ardal awdurdod lleol Abertawe ar 79 y cant.
Beth y mae Mannheim yn ei wneud yn wahanol, ac a all Abertawe ddysgu oddi wrth ei gefell ddinas? Cyfeiriwyd at ddinas Mannheim fel y ddinas glyfar gyntaf, lle maent wedi llwyddo i gysylltu pob aelwyd yn y ddinas â rhwydwaith ynni clyfar; mae arosfannau bysiau yn nodi pryd y mae'r bws nesaf yn cyrraedd, ac mae ganddynt arwyddion sy'n nodi lleoliad tagfeydd traffig. At hynny, yn y ddinas a'r rhanbarth, gallwch gyrraedd popeth ar fws, tram neu drên.
Prifysgol Mannheim yw un o'r sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw yn yr Almaen, ac mae'n chwarae rhan allweddol yn ei heconomi. Mae sefydliad ymchwil y brifysgol yn cydweithio'n agos â nifer o bartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol, er enghraifft Canolfan Ymchwil Gymdeithasol Ewropeaidd Mannheim a Chanolfan Ymchwil Economaidd Ewropeaidd Mannheim. Ysgol Fusnes Mannheim yw ysgol fusnes fwyaf blaenllaw yr Almaen, ac mae'n cynnig addysg reoli o'r radd flaenaf. Sefydliad sy'n gysylltiedig â'r brifysgol yw Canolfan Mannheim ar gyfer Entrepreneuriaeth ac Arloesi, sy'n darparu llwyfan sefydlu a deor i fyfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr. Mae'r rhanbarth metropolitanaidd yn dod yn atyniad mwy a mwy i wasanaethau amlgyfrwng a thechnoleg uwch. Mae'r uchod yn helpu i egluro pam y mae Mannheim yn unfed ar ddeg yn y 15 dinas fwyaf dyfeisgar yn fyd-eang.
Mae'r ddinas hefyd yn gartref i gorfforaethau rhyngwladol mawr: ABB, IBM, Roche, Unilever. Hefyd, mae nifer o gwmnïau canolig eu maint yn datblygu, sydd â'r gallu i dyfu. Mae'r diwydiannau creadigol wedi'u sefydlu'n gadarn, gyda'r Mannheimer Schule enwog a'r theatr genedlaethol.
Mae gan Mannheim draddodiad diwylliannol hirsefydlog hefyd, ac mae'r Popakademie—prifysgol gyntaf yr Almaen ar gyfer cerddoriaeth bop a busnes cerddoriaeth—yn enwog yn rhyngwladol. Mae gweithdy'r dylunydd ffasiwn, Dorothee Schumacher, yno hefyd , a chaiff ei chreadigaethau eu cyflwyno mewn wythnosau ffasiwn rhyngwladol. Gyda'r nod o gyfrannu at amgylchedd lle gall llawer mwy o fusnesau creadigol ddatblygu, mae mg: mannheimer gründungszentren yn cefnogi sefydlwyr busnesau. Mae'r ganolfan yn cynghori yn ystod y broses sefydlu, yn darparu gofod swyddfa, ac yn helpu cwmnïau newydd i oresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu.
Credaf fod y rôl y mae'r brifysgol yn ei chwarae yn cefnogi datblygiad cwmnïau newydd yn hanfodol i ffyniant yr ardal, a hefyd y syniad o gael sectorau diwydiannol allweddol a'u cefnogi, gan adeiladu ar arbenigedd lleol a meysydd lle datblygwyd arbenigedd dros nifer o flynyddoedd. Er na all Abertawe efelychu popeth ym Mannheim, byddai adeiladu ar y prifysgolion, yn enwedig campws y bae, i gynhyrchu cwmnïau newydd drwy ganolfan entrepreneuriaeth ac arloesi yn gam sylweddol ymlaen. Mae Mannheim wedi gwneud cynnydd ym maes ynni a chysylltedd—dau faes y gall dinas-ranbarth bae Abertawe elwa ohonynt. Yn olaf, byddai adeiladu ar y diwydiannau creadigol sydd eisoes yn y rhanbarth yn helpu i ddatblygu dinas-ranbarth bae Abertawe. Ac a gaf fi atgoffa pobl, unwaith eto, fod y diwydiant gemau cyfrifiadurol yn fwy na'r diwydiant cerddoriaeth a'r diwydiant ffilm gyda'i gilydd?
Aarhus yw'r ddinas fwyaf ond un yn ôl poblogaeth yn Nenmarc, o'i chymharu ag Abertawe, y ddinas fwyaf ond un yng Nghymru. Mae Aarhus Fwyaf yn lleoliad pwysig yn y farchnad ynni gwynt fyd-eang. Mae'n gartref i rai o weithgynhyrchwyr tyrbinau gwynt mwyaf y byd. Pam? Oherwydd ei fod yno'n gyntaf. Y gwledydd a'r ardaloedd a oedd yno ar ddechrau diwydiannau, megis tyrbinau gwynt, yw'r rhai sy'n cael y budd mwyaf ohono, ac mae'n un o'r rhesymau pam fy mod mor gefnogol i forlyn llanw bae Abertawe.
Sefydlwyd Prifysgol Aarhus ym 1928 a hi yw'r brifysgol fwyaf yn Nenmarc, gyda 44,500 o fyfyrwyr, oddeutu dwywaith cymaint ag Abertawe. Ond mae Abertawe hefyd yn brifysgol sy'n cael ei harwain gan ymchwil, felly'r her yw tyfu'r brifysgol, o ran nifer y myfyrwyr a'i safle'n fyd-eang. Mae cynnydd wedi'i wneud ar y ddau beth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag adeiladu campws y bae, ond mae cyfle o hyd i dyfu o ran niferoedd a gwella ei safle'n fyd-eang.
Y parc ymchwil mwyaf yn Aarhus yw parc gwyddoniaeth INCUBA, sy'n canolbwyntio ar ymchwil TG a biofeddygol—dau faes arall y soniais amdanynt ar y dechrau a thrwy gydol y drafodaeth hon. Mae'r sefydliad yn eiddo yn rhannol i Brifysgol Aarhus ac yn rhannol i fuddsoddwyr preifat, a'i nod yw meithrin perthynas agos rhwng sefydliadau cyhoeddus a chwmnïau newydd. Mae ymchwil TG a biofeddygol yn ddau o'r meysydd twf presennol yn y byd. Mae Aarhus yn gwybod hynny. Maent yn feysydd y mae dinas-ranbarth Abertawe yn awyddus i'w datblygu. Y nod yw rhoi'r rhanbarth ar y blaen o ran arloesi ym maes gwyddorau bywyd, a chael ei gydnabod fel dewis gyrchfan ar gyfer buddsoddiad a menter fyd-eang ym maes gwyddorau bywyd a llesiant. Ond gallwn dyfu ein mentrau ein hunain hefyd.
Mae Aarhus a Chaergrawnt—gyda'i Ffen Silicon a grëwyd yn 1970, pan ffurfiwyd parc gwyddoniaeth gan Goleg y Drindod a cholegau eraill Caergrawnt—yn dangos bod angen i barc ymchwil gael ei arwain gan y brifysgol. Ac rwy'n falch iawn o'r gwaith sy'n cael ei wneud yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, ond hoffwn ei weld i lawr yma hefyd. Mae cyfle i gynhyrchu parc ymchwil yn ninas-ranbarth bae Abertawe, ond mae'n rhaid iddo gael cefnogaeth prifysgol yn ogystal â chymorth lleol a chan Lywodraeth Cymru.
Aarhus yw canolfan Arla Foods, y cynhyrchydd cynhyrchion llaeth mwyaf yn Sgandinafia a'r pedwerydd cwmni llaeth mwyaf yn y byd. Mae gan Arla dri phrif frand: Arla, Lurpak a chaws Castello, sy'n cael eu gwerthu ym mhob cwr o'r byd. Rwy'n gofyn i bobl a allant enwi unrhyw frand arall sydd wedi'i wneud yng Nghymru, nid yn unig yn ne Cymru, y byddwn, pe bawn yn mynd i siop yn yr Almaen, neu'n mynd i siop yn Ffrainc neu Sbaen, yn dod o hyd i'r hyn sy'n cyfateb yng Nghymru i Lurpak, Arla a chaws Castello.
Dylai prosesu mwy o'r bwyd yn lleol fod yn un maes twf a chael mwy o fudd economaidd o brosesu'r bwyd yn ogystal â'r fantais o'i gynhyrchu. Er nad oes dwy ddinas yr un fath, yn enwedig pan fyddant mewn gwahanol wledydd, ac er bod llwyddiant Aarhus yn dibynnu ar fwy na'r uchod, mae'n rhoi syniad o'r cyfeiriad teithio i gael dinas sy'n llwyddiannus yn economaidd. Er bod y cyngor yn symud dinas-ranbarth bae Abertawe i'r cyfeiriad cywir gyda'r fargen ddinesig, ni all y cyngor ar ei ben ei hun greu, na hyd yn oed arwain, llwyddiant economaidd ar gyfer yr ardal. Mae angen i'r prifysgolion, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a'r sector preifat gydweithio i dyfu'r economi.
Credaf fod angen pum cam gweithredu allweddol. Rhaid i'r fargen ddinesig fynd yn ei blaen i gynhyrchu'r manteision i gyflogaeth a'r economi a gynlluniwyd ar ei chyfer. Mae angen inni gael naill ai canolfan entrepreneuriaeth, fel Mannheim, neu barc datblygu, fel Aarhus, yn gysylltiedig â'r brifysgol yn Abertawe, neu'r ddau os oes modd. Mae cyfle i'r brifysgol dyfu ymhellach er mwyn iddynt ganolbwyntio ar arloesi a masnacheiddio. Mae angen inni gefnogi sectorau twf allweddol. Ac eto, fel y dywedais yn gynharach, mae'r diwydiant gemau cyfrifiadurol yn fwy na cherddoriaeth a ffilmiau gyda'i gilydd. Mae Dundee wedi canfod hynny. I'r rhai sy'n gyfarwydd â Grand Theft Auto, daw hwnnw o Dundee.
Ac yn olaf, mae angen inni wella trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cysylltu gwahanol rannau'r rhanbarth. Nid ydym yn llai medrus, nid ydym yn llai galluog na rhannau eraill o'r byd; yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw ysgogiad a chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r prifysgolion i'n symud ymlaen. Diolch.