10. Dadl Fer: Datblygu economi dinas-ranbarth Bae Abertawe

– Senedd Cymru am 5:26 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:26, 15 Rhagfyr 2021

I'r rhai ohonoch chi sy'n gadael, pob dymuniad da ichi am y Nadolig. I'r rhai ohonoch chi sy'n aros i glywed y ddadl fer, yna fe fyddwn ni yn symud ymlaen at y ddadl fer honno, yn enw Mike Hedges.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:27, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ceir cymuned fuddiant ledled dinas-ranbarth bae Abertawe. Abertawe oedd y ddinas fwyaf yng ngorllewin Ewrop i dderbyn cyllid amcan 1. Nid yw hynny'n destun balchder i mi o gwbl. Drwy'r rhanbarth, mae gennym Bort Talbot gyda dur, Llanelli gyda thunplat, sir Benfro gydag ynni, sir Gaerfyrddin gydag amaethyddiaeth ac Abertawe gyda gwasanaethau mawr y Llywodraeth fel y DVLA. Mae gan yr ardal Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar sawl safle. Felly, pam fod yr ardal yn gymharol dlawd? Yr achos, fel ym mhob man sy'n gymharol dlawd, yw gormod o bobl yn gweithio oriau afreolaidd ar yr isafswm cyflog. 

Rwy'n croesawu bargen ddinesig bae Abertawe, ac rwy'n llongyfarch y cynghorau a Llywodraethau Cymru a San Steffan am eu cefnogaeth i'r fargen hon. Er ei bod yn ddefnyddiol, ni fydd hyn yn trawsnewid yr economi. Os yw rhanbarth bae Abertawe am gael economi lwyddiannus, fywiog a ffyniannus, mae angen inni ganolbwyntio ar feysydd twf allweddol a chefnogi'r diwydiannau hynny gyda grantiau, cymhellion a chymorth arall. Ni allwn obeithio mwyach y bydd cynnig mwy nag unrhyw le arall i gwmnïau ddod â ffatri gangen yn datblygu ein heconomi, yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o'r ffatrïoedd cangen hyn yn cau mewn cyfnod byr iawn.

Er y bydd gan bawb syniadau gwahanol ar ba sectorau i'w cefnogi, rwy'n credu bod yn rhaid inni ganolbwyntio ar gefnogi a meithrin y gwyddorau bywyd, TGCh, diwydiannau creadigol, gweithgynhyrchu uwch a gwasanaethau proffesiynol. Mae'r dystiolaeth hefyd yn dweud wrthym y gall busnesau yn y sector gwyddorau bywyd dyfu'n gyflym iawn mewn marchnad fyd-eang, ac mae'r gwobrau am lwyddiant yn enfawr. Mae hyn yn golygu bod gan nifer fach o fusnesau llwyddiannus yn y diwydiant gwyddorau bywyd bŵer a photensial i gynhyrchu gwerth economaidd mawr i'r ddinas-ranbarth, gan greu swyddi sy'n talu'n dda.

Fodd bynnag, mae gwasanaethau proffesiynol ac ariannol yn sectorau lle mae Cymru, yn enwedig y tu allan i Gaerdydd, yn parhau i fod yn wan neu'n wan iawn. Mae angen inni ddatblygu ein gwasanaethau proffesiynol a defnyddio'r sector prifysgolion sy'n ffynnu i gynhyrchu cyflogaeth yn yr ardal. Yn y 1970au a'r 1980au, roedd Prifysgol Abertawe ar flaen y gad ym maes dadansoddi elfennau cyfyngedig, ac eto ychydig iawn o fudd a gafodd Cymru o hynny, os o gwbl. Gall gwasanaethau proffesiynol ym maes cyllid a pheirianneg gynhyrchu cyflogau uchel yn ogystal â chlystyrau o weithgarwch cysylltiedig. Mae gennym gwmni yswiriant mawr ac uchel ei barch yn yr ardal, ond mae gwir angen inni ddenu a chefnogi mwy o gyflogaeth gwerth uchel ar gyflogau uchel yn y sector ariannol. 

Un diwydiant allweddol nad yw wedi'i gyfyngu'n ddaearyddol, ac sydd â'r gallu i gynhyrchu cyfoeth enfawr, yw TGCh. Mae tuedd i gwmnïau TGCh glystyru, nid yn unig yng Nghaergrawnt a Silicon Valley, ond o amgylch dinasoedd prifysgol eraill, ac o amgylch lleoedd fel Leamington Spa. Gydag ansawdd y graddedigion TGCh a gynhyrchir ym mhrifysgolion Cymru, mae'n siom ddifrifol fod gan Gymru gyfran is o'i phoblogaeth yn gweithio i gwmnïau TGCh na gweddill y DU. Mae datblygu economi yn ymwneud â datblygu a hyrwyddo sectorau economaidd gwerth uchel. Ni fyddwn yn datblygu economi lwyddiannus a gwerth ychwanegol gros uchel ar gyflogau isel a gwaith tymhorol. Felly, rydym angen strategaeth ar gyfer pob un o'r sectorau twf a dargedir.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:30, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn gymharu Abertawe â dinas sy'n cyfateb iddi, Aarhus, sef y ddinas fwyaf ond un yn Nenmarc, a Mannheim, sef ei gefell ddinas yn yr Almaen. Mae'r data economaidd ar gyfer y ddwy ardal yn ddiddorol, ond, fel un o drigolion bae Abertawe, yn ddigalon. Yn rhanbarth metropolitanaidd Mannheim, mae ei werth ychwanegol gros yn 147 y cant o'r cyfartaledd Ewropeaidd, ond yn ninas Mannheim, mae'n 210 y cant, o'i gymharu ag ardal fetropolitan Abertawe ar 75 y cant ac ardal awdurdod lleol Abertawe ar 79 y cant.

Beth y mae Mannheim yn ei wneud yn wahanol, ac a all Abertawe ddysgu oddi wrth ei gefell ddinas? Cyfeiriwyd at ddinas Mannheim fel y ddinas glyfar gyntaf, lle maent wedi llwyddo i gysylltu pob aelwyd yn y ddinas â rhwydwaith ynni clyfar; mae arosfannau bysiau yn nodi pryd y mae'r bws nesaf yn cyrraedd, ac mae ganddynt arwyddion sy'n nodi lleoliad tagfeydd traffig. At hynny, yn y ddinas a'r rhanbarth, gallwch gyrraedd popeth ar fws, tram neu drên.

Prifysgol Mannheim yw un o'r sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw yn yr Almaen, ac mae'n chwarae rhan allweddol yn ei heconomi. Mae sefydliad ymchwil y brifysgol yn cydweithio'n agos â nifer o bartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol, er enghraifft Canolfan Ymchwil Gymdeithasol Ewropeaidd Mannheim a Chanolfan Ymchwil Economaidd Ewropeaidd Mannheim. Ysgol Fusnes Mannheim yw ysgol fusnes fwyaf blaenllaw yr Almaen, ac mae'n cynnig addysg reoli o'r radd flaenaf. Sefydliad sy'n gysylltiedig â'r brifysgol yw Canolfan Mannheim ar gyfer Entrepreneuriaeth ac Arloesi, sy'n darparu llwyfan sefydlu a deor i fyfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr. Mae'r rhanbarth metropolitanaidd yn dod yn atyniad mwy a mwy i wasanaethau amlgyfrwng a thechnoleg uwch. Mae'r uchod yn helpu i egluro pam y mae Mannheim yn unfed ar ddeg yn y 15 dinas fwyaf dyfeisgar yn fyd-eang.

Mae'r ddinas hefyd yn gartref i gorfforaethau rhyngwladol mawr: ABB, IBM, Roche, Unilever. Hefyd, mae nifer o gwmnïau canolig eu maint yn datblygu, sydd â'r gallu i dyfu. Mae'r diwydiannau creadigol wedi'u sefydlu'n gadarn, gyda'r Mannheimer Schule enwog a'r theatr genedlaethol.

Mae gan Mannheim draddodiad diwylliannol hirsefydlog hefyd, ac mae'r Popakademie—prifysgol gyntaf yr Almaen ar gyfer cerddoriaeth bop a busnes cerddoriaeth—yn enwog yn rhyngwladol. Mae gweithdy'r dylunydd ffasiwn, Dorothee Schumacher, yno hefyd , a chaiff ei chreadigaethau eu cyflwyno mewn wythnosau ffasiwn rhyngwladol. Gyda'r nod o gyfrannu at amgylchedd lle gall llawer mwy o fusnesau creadigol ddatblygu, mae mg: mannheimer gründungszentren yn cefnogi sefydlwyr busnesau. Mae'r ganolfan yn cynghori yn ystod y broses sefydlu, yn darparu gofod swyddfa, ac yn helpu cwmnïau newydd i oresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu.

Credaf fod y rôl y mae'r brifysgol yn ei chwarae yn cefnogi datblygiad cwmnïau newydd yn hanfodol i ffyniant yr ardal, a hefyd y syniad o gael sectorau diwydiannol allweddol a'u cefnogi, gan adeiladu ar arbenigedd lleol a meysydd lle datblygwyd arbenigedd dros nifer o flynyddoedd. Er na all Abertawe efelychu popeth ym Mannheim, byddai adeiladu ar y prifysgolion, yn enwedig campws y bae, i gynhyrchu cwmnïau newydd drwy ganolfan entrepreneuriaeth ac arloesi yn gam sylweddol ymlaen. Mae Mannheim wedi gwneud cynnydd ym maes ynni a chysylltedd—dau faes y gall dinas-ranbarth bae Abertawe elwa ohonynt. Yn olaf, byddai adeiladu ar y diwydiannau creadigol sydd eisoes yn y rhanbarth yn helpu i ddatblygu dinas-ranbarth bae Abertawe. Ac a gaf fi atgoffa pobl, unwaith eto, fod y diwydiant gemau cyfrifiadurol yn fwy na'r diwydiant cerddoriaeth a'r diwydiant ffilm gyda'i gilydd?

Aarhus yw'r ddinas fwyaf ond un yn ôl poblogaeth yn Nenmarc, o'i chymharu ag Abertawe, y ddinas fwyaf ond un yng Nghymru. Mae Aarhus Fwyaf yn lleoliad pwysig yn y farchnad ynni gwynt fyd-eang. Mae'n gartref i rai o weithgynhyrchwyr tyrbinau gwynt mwyaf y byd. Pam? Oherwydd ei fod yno'n gyntaf. Y gwledydd a'r ardaloedd a oedd yno ar ddechrau diwydiannau, megis tyrbinau gwynt, yw'r rhai sy'n cael y budd mwyaf ohono, ac mae'n un o'r rhesymau pam fy mod mor gefnogol i forlyn llanw bae Abertawe.

Sefydlwyd Prifysgol Aarhus ym 1928 a hi yw'r brifysgol fwyaf yn Nenmarc, gyda 44,500 o fyfyrwyr, oddeutu dwywaith cymaint ag Abertawe. Ond mae Abertawe hefyd yn brifysgol sy'n cael ei harwain gan ymchwil, felly'r her yw tyfu'r brifysgol, o ran nifer y myfyrwyr a'i safle'n fyd-eang. Mae cynnydd wedi'i wneud ar y ddau beth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag adeiladu campws y bae, ond mae cyfle o hyd i dyfu o ran niferoedd a gwella ei safle'n fyd-eang.

Y parc ymchwil mwyaf yn Aarhus yw parc gwyddoniaeth INCUBA, sy'n canolbwyntio ar ymchwil TG a biofeddygol—dau faes arall y soniais amdanynt ar y dechrau a thrwy gydol y drafodaeth hon. Mae'r sefydliad yn eiddo yn rhannol i Brifysgol Aarhus ac yn rhannol i fuddsoddwyr preifat, a'i nod yw meithrin perthynas agos rhwng sefydliadau cyhoeddus a chwmnïau newydd. Mae ymchwil TG a biofeddygol yn ddau o'r meysydd twf presennol yn y byd. Mae Aarhus yn gwybod hynny. Maent yn feysydd y mae dinas-ranbarth Abertawe yn awyddus i'w datblygu. Y nod yw rhoi'r rhanbarth ar y blaen o ran arloesi ym maes gwyddorau bywyd, a chael ei gydnabod fel dewis gyrchfan ar gyfer buddsoddiad a menter fyd-eang ym maes gwyddorau bywyd a llesiant. Ond gallwn dyfu ein mentrau ein hunain hefyd.

Mae Aarhus a Chaergrawnt—gyda'i Ffen Silicon a grëwyd yn 1970, pan ffurfiwyd parc gwyddoniaeth gan Goleg y Drindod a cholegau eraill Caergrawnt—yn dangos bod angen i barc ymchwil gael ei arwain gan y brifysgol. Ac rwy'n falch iawn o'r gwaith sy'n cael ei wneud yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, ond hoffwn ei weld i lawr yma hefyd. Mae cyfle i gynhyrchu parc ymchwil yn ninas-ranbarth bae Abertawe, ond mae'n rhaid iddo gael cefnogaeth prifysgol yn ogystal â chymorth lleol a chan Lywodraeth Cymru.

Aarhus yw canolfan Arla Foods, y cynhyrchydd cynhyrchion llaeth mwyaf yn Sgandinafia a'r pedwerydd cwmni llaeth mwyaf yn y byd. Mae gan Arla dri phrif frand: Arla, Lurpak a chaws Castello, sy'n cael eu gwerthu ym mhob cwr o'r byd. Rwy'n gofyn i bobl a allant enwi unrhyw frand arall sydd wedi'i wneud yng Nghymru, nid yn unig yn ne Cymru, y byddwn, pe bawn yn mynd i siop yn yr Almaen, neu'n mynd i siop yn Ffrainc neu Sbaen, yn dod o hyd i'r hyn sy'n cyfateb yng Nghymru i Lurpak, Arla a chaws Castello.

Dylai prosesu mwy o'r bwyd yn lleol fod yn un maes twf a chael mwy o fudd economaidd o brosesu'r bwyd yn ogystal â'r fantais o'i gynhyrchu. Er nad oes dwy ddinas yr un fath, yn enwedig pan fyddant mewn gwahanol wledydd, ac er bod llwyddiant Aarhus yn dibynnu ar fwy na'r uchod, mae'n rhoi syniad o'r cyfeiriad teithio i gael dinas sy'n llwyddiannus yn economaidd. Er bod y cyngor yn symud dinas-ranbarth bae Abertawe i'r cyfeiriad cywir gyda'r fargen ddinesig, ni all y cyngor ar ei ben ei hun greu, na hyd yn oed arwain, llwyddiant economaidd ar gyfer yr ardal. Mae angen i'r prifysgolion, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan a'r sector preifat gydweithio i dyfu'r economi.

Credaf fod angen pum cam gweithredu allweddol. Rhaid i'r fargen ddinesig fynd yn ei blaen i gynhyrchu'r manteision i gyflogaeth a'r economi a gynlluniwyd ar ei chyfer. Mae angen inni gael naill ai canolfan entrepreneuriaeth, fel Mannheim, neu barc datblygu, fel Aarhus, yn gysylltiedig â'r brifysgol yn Abertawe, neu'r ddau os oes modd. Mae cyfle i'r brifysgol dyfu ymhellach er mwyn iddynt ganolbwyntio ar arloesi a masnacheiddio. Mae angen inni gefnogi sectorau twf allweddol. Ac eto, fel y dywedais yn gynharach, mae'r diwydiant gemau cyfrifiadurol yn fwy na cherddoriaeth a ffilmiau gyda'i gilydd. Mae Dundee wedi canfod hynny. I'r rhai sy'n gyfarwydd â Grand Theft Auto, daw hwnnw o Dundee.

Ac yn olaf, mae angen inni wella trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cysylltu gwahanol rannau'r rhanbarth. Nid ydym yn llai medrus, nid ydym yn llai galluog na rhannau eraill o'r byd; yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw ysgogiad a chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r prifysgolion i'n symud ymlaen. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:37, 15 Rhagfyr 2021

Galwaf ar Weinidog yr Economi i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Mike Hedges am ei ddewis o ddadl fer, ynghyd â'i sylwadau agoriadol. Diddorol iawn—mae gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn y mae Mike wedi'i ddweud, ac yn enwedig y meysydd y mae wedi tynnu sylw atynt—mae'n tynnu sylw at feysydd o gryfder parhaus i adeiladu arnynt, yn ogystal â meysydd newydd posibl i edrych arnynt yn y dyfodol hefyd. Ac mae gan Mike ddiddordeb cyson mewn gwyddorau bywyd, rôl y brifysgol, ac wrth gwrs, nid yn unig TGCh ond trawsnewidiad digidol ehangach yr economi. A chredaf fod yr holl bethau hynny'n gyson â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru am eu nodi yn ein cynllun gweithredu economaidd a'n dull bwriadol o gael datblygiadau economaidd mwy rhanbarthol. Ac ers i fy rhagflaenydd, Ken Skates, benodi prif swyddogion rhanbarthol, rydym wedi ceisio meithrin cydweithrediad agosach a mwy effeithiol â phartneriaid a rhanddeiliaid rhanbarthol. A chredaf fod hynny'n dwyn ffrwyth, gyda chydweithredu'n allweddol, ac mae'r bargeinion twf wedi helpu i ddod â phartneriaid at ei gilydd mewn gwirionedd—Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac yn hollbwysig, awdurdodau lleol fel partneriaid gyda busnesau, prifysgolion ac eraill.

Wrth gwrs, rydym yn wynebu heriau gwirioneddol gyda COVID a Brexit yn cael effaith wirioneddol ar economi Cymru ac yn wir, ar ranbarth bae Abertawe. Nawr, hyd at ychydig wythnosau'n ôl, byddem wedi bod yn sôn am yr adferiad cyffredinol yn sgil COVID—mae hynny mewn llawer mwy o berygl yn awr. Yr hyn a wyddom yw bod problemau gyda chadwyni cyflenwi a staffio yn llesteirio'r adferiad, ynghyd â'r cynnydd mewn chwyddiant, ac mae ffigurau heddiw yn ein hatgoffa o hynny eto. Ond mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a grëwyd gan y Llywodraeth Geidwadol yn cydnabod, yn ei rhagolygon, y bydd Brexit yn dyblu'r effaith niweidiol hirdymor y mae'r pandemig yn debygol o'i chael ar yr economi. Felly, mae ein perthynas wahanol ag Ewrop yn her fwy i ni, ac mae'r cysylltiadau y mae Mike Hedges wedi tynnu sylw atynt, gyda ffrindiau a phartneriaid Ewropeaidd, yn mynd i ddod yn fwy, nid yn llai, pwysig. A chredaf hefyd, yn benodol, y dylai ein cysylltiadau ag ynys Iwerddon ddarparu manteision gwirioneddol i ranbarth bae Abertawe, a manteisio ar botensial economaidd y môr Celtaidd yn arbennig, nid ei botensial o ran ynni adnewyddadwy yn unig.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:40, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym wedi ceisio cynnal a diogelu busnesau ledled Cymru, wrth gwrs, gan gynnwys yn y rhanbarth hwn. Mae'r £2.5 biliwn a mwy a ddarparwyd gennym i gefnogi busnesau Cymru yn ystod y pandemig wedi golygu bod dros £127 miliwn wedi'i ddarparu yn Abertawe, dros £60 miliwn yng Nghastell-nedd Port Talbot, dros £109 miliwn yn sir Gaerfyrddin, a dros £111 miliwn yn sir Benfro gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau a swyddi yn y siroedd hynny. Ac rwy'n falch iawn fod Busnes Cymru yn parhau i gynorthwyo busnesau. Pan fyddwch yn meddwl am y rheswm penodol hwn, mae cannoedd o fusnesau wedi cael eu cefnogi drwy'r pandemig oherwydd gweithgarwch Busnes Cymru. Ac mae'r dull wedi'i dargedu wedi helpu i achub miloedd o swyddi yn llythrennol.

Pan edrychwn ar yr hyn rydym am ei wneud i gael mwy o bobl mewn gwaith, mae ein strategaeth cyflogadwyedd, y byddaf yn adrodd yn ôl arni yn y flwyddyn newydd, yn rhan allweddol o amlygu'r cymorth sydd ar gael i unigolion, yn enwedig y rheini yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig, a'r rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Un ffactor allweddol yn hynny fydd yr her o roi'r sgiliau i bobl naill ai gynyddu eu cyfleoedd i weithio, neu'n syml i gyrraedd y gweithle. Bydd ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn elfen sylweddol—yn elfen ganolog—o fewn y tirlun sgiliau, gyda'r wybodaeth am y farchnad lafur y maent yn ei darparu i ni, ond maent hefyd yn bartneriaid strategol sy'n cysylltu cydweithrediad yn eu rhanbarthau. Maent yn cefnogi ein dull rhanbarthol yn uniongyrchol, a'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf yng Nghymru a nododd yr Aelod yn ei araith hefyd. 

Ochr yn ochr â hynny, wrth gwrs, rydym wedi parhau i ddatblygu ein fframweithiau economaidd rhanbarthol, a chredaf eu bod yn rhan hanfodol o ddyfodol datblygu economaidd yng Nghymru. Maent yn gyfrwng i ddatblygu ymhellach y cydweithio rydym yn ei gydnabod—a thynnodd yr Aelod sylw at nifer o ardaloedd, nid rhanbarth bae Abertawe yn unig—ond maent yn rhan o lwyddiant Mannheim, Aarhus a rhanbarthau Ewropeaidd eraill hefyd, a'r modd rydym yn cyflawni gyda chynlluniau rhanbarthol cydweithredol, sy'n rhwymo partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, mewn gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol economaidd rhanbarthol.

Nawr, y newyddion da yw bod y fframweithiau economaidd rhanbarthol hynny wedi datblygu'n dda, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r partneriaid rhanbarthol i geisio diffinio set y cytunwyd arni o flaenoriaethau datblygu economaidd ar gyfer pob rhanbarth. Ac yn rhanbarth bae Abertawe, mae'r fframwaith drafft eisoes yn adlewyrchu'r gwaith sydd wedi'i wneud ymlaen llaw o baratoi cynllun cyflawni economaidd rhanbarthol ar gyfer y rhanbarth, ac rydym yn disgwyl cyhoeddi hynny adeg y Nadolig neu cyn hynny. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl bartneriaid yn rhanbarth bae Abertawe am y ffordd y maent wedi gweithio'n adeiladol gyda'i gilydd, a'r ffordd rydym am barhau i weithio gyda hwy yn awr ac yn y dyfodol, a'r gwaith ychwanegol y comisiynais y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i'w wneud ochr yn ochr â hynny. 

Yn ogystal â'r gwaith ar y fframwaith economaidd rhanbarthol wrth gwrs, rydym wedi gweld bod bargen bae Abertawe yn enwedig wedi cydnabod y realiti fod sector ynni adnewyddadwy morol newydd hyfyw a allai fod yn broffidiol iawn yn rhan o'r peilot ym margen ddinesig bae Abertawe. Nod y fargen ddinesig yw darparu dros 9,000 o swyddi medrus—cynnydd o £1.8 miliwn yn y gwerth ychwanegol gros. Rydym yn falch fod y rhanbarth wedi gwneud cynnydd ar ddatblygu prosiect portffolio, gydag wyth o'r naw prosiect eisoes ar waith. Ac mae'r cyllid sydd wedi'i ryddhau hyd yma yn golygu ein bod eisoes wedi rhoi tair blynedd o'r cyllid cyntaf, gyda dros £54 miliwn o raglen y fargen ddinesig eisoes allan i'w wario. Mae hynny'n newyddion da iawn, oherwydd mae'n ymwneud â mwy na'r arian yn unig, mae'n ymwneud ag ysgogi menter ac arloesedd sy'n gwneud i'ch partner weld eich elw ar yr amser y maent wedi'i fuddsoddi mewn gweithio gyda'ch gilydd.

Ac unwaith eto, mae'r sector prifysgolion wedi bod yn allweddol i hyn hefyd, yn union fel y mae Mike Hedges wedi'i nodi mewn rhanbarthau eraill lle maent wedi bod yn llwyddiannus. Mae cael prifysgol sy'n canolbwyntio ar ymchwil a chael ymchwil, datblygu ac arloesedd sy'n cynnwys y sector prifysgolion a'r sector preifat yn allweddol i ddyfodol datblygu economaidd llwyddiannus. A chredaf fod gan ranbarth bae Abertawe lawer i'w gynnig i gefnogi ac annog gweddill Cymru hefyd. Mae hynny'n helpu i gyflawni prosiectau ynni morol yn sir Benfro—môr Doc Penfro—ond hefyd wrth gwrs, yr uchelgeisiau sy'n parhau i fod gennym mewn perthynas â thechnoleg môr-lynnoedd hefyd. Ond rwy'n credu hefyd ei fod yn amlygu'r cyfle sy'n bodoli yn y môr Celtaidd. Mae Llywodraeth Iwerddon, ynghyd â Gweinidogion Cymru, wedi cael sgyrsiau adeiladol gyda'r sector preifat, a chredaf fod cyfleoedd gwirioneddol, nid yn unig i gynhyrchu, fel y dywedais, ffynhonnell fwy o ynni adnewyddadwy, ond i greu cyfle economaidd gwirioneddol, sylweddol yn y cadwyni cyflenwi ar gyfer adeiladu, a fydd yn ymdrech sylweddol i ni ac a fydd, yn anochel, yn cynnwys y sector hwn. Mae'r ymchwil hyd yma, gyda'r Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr, wedi nodi'r cyfleoedd hynny, ac rwy'n awyddus i weld partneriaid yn rhanbarth bae Abertawe yn manteisio ar y rheini, ynghyd â Gweinidogion yma yn ein hadran newid hinsawdd wrth gwrs.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Abertawe i hyrwyddo ei raglen adfywio a datblygu economaidd uchelgeisiol ar gyfer y ddinas. Mae'r fargen ddinesig ei hun wedi bod yn allweddol wrth greu ffrwd o brosiectau adfywio ychwanegol sy'n werth dros £1 biliwn yn Abertawe yn unig. Fel y mae Mike Hedges yn nodi, mae rhesymau da dros fod yn gadarnhaol am ddyfodol rhanbarth bae Abertawe, ond yn fwy na hynny, mae cryn awydd i ddysgu o rannau eraill o'r byd, gan gynnwys Mannheim ac Aarhus, i ddarparu rhanbarth bae Abertawe sy'n iachach, yn wyrddach ac yn fwy llewyrchus, yn rhan o  Gymru sy'n iachach, yn wyrddach ac yn fwy llewyrchus.

Edrychaf ymlaen at barhau â'r trafodaethau hyn gydag Aelodau o bob rhan o'r rhanbarth, gan gynnwys yr Aelod etholaeth a gyflwynodd y ddadl hon heddiw wrth gwrs. Rwy'n dymuno Nadolig a blwyddyn newydd heddychlon iawn, gobeithio, i chi i gyd, ac os na all fod yn hynny, rwyf o leiaf yn edrych ymlaen at eich gweld i gyd yn y flwyddyn newydd ar ryw bwynt hefyd. Cymerwch ofal.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Cyn i mi gloi'r trafodion am heddiw, a gaf fi ddymuno Nadolig a blwyddyn newydd heddychlon, diogel a hapus iawn i chi i gyd a'ch teuluoedd? Edrychaf ymlaen at eich gweld yn y flwyddyn newydd yn iach, bawb ohonoch, a gobeithio y byddwch chi a'ch teuluoedd yn parhau'n iach dros y cyfnod hwn.

Photo of David Rees David Rees Labour

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:46.