Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Rydym wedi ceisio cynnal a diogelu busnesau ledled Cymru, wrth gwrs, gan gynnwys yn y rhanbarth hwn. Mae'r £2.5 biliwn a mwy a ddarparwyd gennym i gefnogi busnesau Cymru yn ystod y pandemig wedi golygu bod dros £127 miliwn wedi'i ddarparu yn Abertawe, dros £60 miliwn yng Nghastell-nedd Port Talbot, dros £109 miliwn yn sir Gaerfyrddin, a dros £111 miliwn yn sir Benfro gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau a swyddi yn y siroedd hynny. Ac rwy'n falch iawn fod Busnes Cymru yn parhau i gynorthwyo busnesau. Pan fyddwch yn meddwl am y rheswm penodol hwn, mae cannoedd o fusnesau wedi cael eu cefnogi drwy'r pandemig oherwydd gweithgarwch Busnes Cymru. Ac mae'r dull wedi'i dargedu wedi helpu i achub miloedd o swyddi yn llythrennol.
Pan edrychwn ar yr hyn rydym am ei wneud i gael mwy o bobl mewn gwaith, mae ein strategaeth cyflogadwyedd, y byddaf yn adrodd yn ôl arni yn y flwyddyn newydd, yn rhan allweddol o amlygu'r cymorth sydd ar gael i unigolion, yn enwedig y rheini yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig, a'r rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Un ffactor allweddol yn hynny fydd yr her o roi'r sgiliau i bobl naill ai gynyddu eu cyfleoedd i weithio, neu'n syml i gyrraedd y gweithle. Bydd ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn elfen sylweddol—yn elfen ganolog—o fewn y tirlun sgiliau, gyda'r wybodaeth am y farchnad lafur y maent yn ei darparu i ni, ond maent hefyd yn bartneriaid strategol sy'n cysylltu cydweithrediad yn eu rhanbarthau. Maent yn cefnogi ein dull rhanbarthol yn uniongyrchol, a'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf yng Nghymru a nododd yr Aelod yn ei araith hefyd.
Ochr yn ochr â hynny, wrth gwrs, rydym wedi parhau i ddatblygu ein fframweithiau economaidd rhanbarthol, a chredaf eu bod yn rhan hanfodol o ddyfodol datblygu economaidd yng Nghymru. Maent yn gyfrwng i ddatblygu ymhellach y cydweithio rydym yn ei gydnabod—a thynnodd yr Aelod sylw at nifer o ardaloedd, nid rhanbarth bae Abertawe yn unig—ond maent yn rhan o lwyddiant Mannheim, Aarhus a rhanbarthau Ewropeaidd eraill hefyd, a'r modd rydym yn cyflawni gyda chynlluniau rhanbarthol cydweithredol, sy'n rhwymo partneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, mewn gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol economaidd rhanbarthol.
Nawr, y newyddion da yw bod y fframweithiau economaidd rhanbarthol hynny wedi datblygu'n dda, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r partneriaid rhanbarthol i geisio diffinio set y cytunwyd arni o flaenoriaethau datblygu economaidd ar gyfer pob rhanbarth. Ac yn rhanbarth bae Abertawe, mae'r fframwaith drafft eisoes yn adlewyrchu'r gwaith sydd wedi'i wneud ymlaen llaw o baratoi cynllun cyflawni economaidd rhanbarthol ar gyfer y rhanbarth, ac rydym yn disgwyl cyhoeddi hynny adeg y Nadolig neu cyn hynny. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl bartneriaid yn rhanbarth bae Abertawe am y ffordd y maent wedi gweithio'n adeiladol gyda'i gilydd, a'r ffordd rydym am barhau i weithio gyda hwy yn awr ac yn y dyfodol, a'r gwaith ychwanegol y comisiynais y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i'w wneud ochr yn ochr â hynny.
Yn ogystal â'r gwaith ar y fframwaith economaidd rhanbarthol wrth gwrs, rydym wedi gweld bod bargen bae Abertawe yn enwedig wedi cydnabod y realiti fod sector ynni adnewyddadwy morol newydd hyfyw a allai fod yn broffidiol iawn yn rhan o'r peilot ym margen ddinesig bae Abertawe. Nod y fargen ddinesig yw darparu dros 9,000 o swyddi medrus—cynnydd o £1.8 miliwn yn y gwerth ychwanegol gros. Rydym yn falch fod y rhanbarth wedi gwneud cynnydd ar ddatblygu prosiect portffolio, gydag wyth o'r naw prosiect eisoes ar waith. Ac mae'r cyllid sydd wedi'i ryddhau hyd yma yn golygu ein bod eisoes wedi rhoi tair blynedd o'r cyllid cyntaf, gyda dros £54 miliwn o raglen y fargen ddinesig eisoes allan i'w wario. Mae hynny'n newyddion da iawn, oherwydd mae'n ymwneud â mwy na'r arian yn unig, mae'n ymwneud ag ysgogi menter ac arloesedd sy'n gwneud i'ch partner weld eich elw ar yr amser y maent wedi'i fuddsoddi mewn gweithio gyda'ch gilydd.
Ac unwaith eto, mae'r sector prifysgolion wedi bod yn allweddol i hyn hefyd, yn union fel y mae Mike Hedges wedi'i nodi mewn rhanbarthau eraill lle maent wedi bod yn llwyddiannus. Mae cael prifysgol sy'n canolbwyntio ar ymchwil a chael ymchwil, datblygu ac arloesedd sy'n cynnwys y sector prifysgolion a'r sector preifat yn allweddol i ddyfodol datblygu economaidd llwyddiannus. A chredaf fod gan ranbarth bae Abertawe lawer i'w gynnig i gefnogi ac annog gweddill Cymru hefyd. Mae hynny'n helpu i gyflawni prosiectau ynni morol yn sir Benfro—môr Doc Penfro—ond hefyd wrth gwrs, yr uchelgeisiau sy'n parhau i fod gennym mewn perthynas â thechnoleg môr-lynnoedd hefyd. Ond rwy'n credu hefyd ei fod yn amlygu'r cyfle sy'n bodoli yn y môr Celtaidd. Mae Llywodraeth Iwerddon, ynghyd â Gweinidogion Cymru, wedi cael sgyrsiau adeiladol gyda'r sector preifat, a chredaf fod cyfleoedd gwirioneddol, nid yn unig i gynhyrchu, fel y dywedais, ffynhonnell fwy o ynni adnewyddadwy, ond i greu cyfle economaidd gwirioneddol, sylweddol yn y cadwyni cyflenwi ar gyfer adeiladu, a fydd yn ymdrech sylweddol i ni ac a fydd, yn anochel, yn cynnwys y sector hwn. Mae'r ymchwil hyd yma, gyda'r Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr, wedi nodi'r cyfleoedd hynny, ac rwy'n awyddus i weld partneriaid yn rhanbarth bae Abertawe yn manteisio ar y rheini, ynghyd â Gweinidogion yma yn ein hadran newid hinsawdd wrth gwrs.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Abertawe i hyrwyddo ei raglen adfywio a datblygu economaidd uchelgeisiol ar gyfer y ddinas. Mae'r fargen ddinesig ei hun wedi bod yn allweddol wrth greu ffrwd o brosiectau adfywio ychwanegol sy'n werth dros £1 biliwn yn Abertawe yn unig. Fel y mae Mike Hedges yn nodi, mae rhesymau da dros fod yn gadarnhaol am ddyfodol rhanbarth bae Abertawe, ond yn fwy na hynny, mae cryn awydd i ddysgu o rannau eraill o'r byd, gan gynnwys Mannheim ac Aarhus, i ddarparu rhanbarth bae Abertawe sy'n iachach, yn wyrddach ac yn fwy llewyrchus, yn rhan o Gymru sy'n iachach, yn wyrddach ac yn fwy llewyrchus.
Edrychaf ymlaen at barhau â'r trafodaethau hyn gydag Aelodau o bob rhan o'r rhanbarth, gan gynnwys yr Aelod etholaeth a gyflwynodd y ddadl hon heddiw wrth gwrs. Rwy'n dymuno Nadolig a blwyddyn newydd heddychlon iawn, gobeithio, i chi i gyd, ac os na all fod yn hynny, rwyf o leiaf yn edrych ymlaen at eich gweld i gyd yn y flwyddyn newydd ar ryw bwynt hefyd. Cymerwch ofal.