Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch, Lywydd. Ceir cymuned fuddiant ledled dinas-ranbarth bae Abertawe. Abertawe oedd y ddinas fwyaf yng ngorllewin Ewrop i dderbyn cyllid amcan 1. Nid yw hynny'n destun balchder i mi o gwbl. Drwy'r rhanbarth, mae gennym Bort Talbot gyda dur, Llanelli gyda thunplat, sir Benfro gydag ynni, sir Gaerfyrddin gydag amaethyddiaeth ac Abertawe gyda gwasanaethau mawr y Llywodraeth fel y DVLA. Mae gan yr ardal Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar sawl safle. Felly, pam fod yr ardal yn gymharol dlawd? Yr achos, fel ym mhob man sy'n gymharol dlawd, yw gormod o bobl yn gweithio oriau afreolaidd ar yr isafswm cyflog.
Rwy'n croesawu bargen ddinesig bae Abertawe, ac rwy'n llongyfarch y cynghorau a Llywodraethau Cymru a San Steffan am eu cefnogaeth i'r fargen hon. Er ei bod yn ddefnyddiol, ni fydd hyn yn trawsnewid yr economi. Os yw rhanbarth bae Abertawe am gael economi lwyddiannus, fywiog a ffyniannus, mae angen inni ganolbwyntio ar feysydd twf allweddol a chefnogi'r diwydiannau hynny gyda grantiau, cymhellion a chymorth arall. Ni allwn obeithio mwyach y bydd cynnig mwy nag unrhyw le arall i gwmnïau ddod â ffatri gangen yn datblygu ein heconomi, yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o'r ffatrïoedd cangen hyn yn cau mewn cyfnod byr iawn.
Er y bydd gan bawb syniadau gwahanol ar ba sectorau i'w cefnogi, rwy'n credu bod yn rhaid inni ganolbwyntio ar gefnogi a meithrin y gwyddorau bywyd, TGCh, diwydiannau creadigol, gweithgynhyrchu uwch a gwasanaethau proffesiynol. Mae'r dystiolaeth hefyd yn dweud wrthym y gall busnesau yn y sector gwyddorau bywyd dyfu'n gyflym iawn mewn marchnad fyd-eang, ac mae'r gwobrau am lwyddiant yn enfawr. Mae hyn yn golygu bod gan nifer fach o fusnesau llwyddiannus yn y diwydiant gwyddorau bywyd bŵer a photensial i gynhyrchu gwerth economaidd mawr i'r ddinas-ranbarth, gan greu swyddi sy'n talu'n dda.
Fodd bynnag, mae gwasanaethau proffesiynol ac ariannol yn sectorau lle mae Cymru, yn enwedig y tu allan i Gaerdydd, yn parhau i fod yn wan neu'n wan iawn. Mae angen inni ddatblygu ein gwasanaethau proffesiynol a defnyddio'r sector prifysgolion sy'n ffynnu i gynhyrchu cyflogaeth yn yr ardal. Yn y 1970au a'r 1980au, roedd Prifysgol Abertawe ar flaen y gad ym maes dadansoddi elfennau cyfyngedig, ac eto ychydig iawn o fudd a gafodd Cymru o hynny, os o gwbl. Gall gwasanaethau proffesiynol ym maes cyllid a pheirianneg gynhyrchu cyflogau uchel yn ogystal â chlystyrau o weithgarwch cysylltiedig. Mae gennym gwmni yswiriant mawr ac uchel ei barch yn yr ardal, ond mae gwir angen inni ddenu a chefnogi mwy o gyflogaeth gwerth uchel ar gyflogau uchel yn y sector ariannol.
Un diwydiant allweddol nad yw wedi'i gyfyngu'n ddaearyddol, ac sydd â'r gallu i gynhyrchu cyfoeth enfawr, yw TGCh. Mae tuedd i gwmnïau TGCh glystyru, nid yn unig yng Nghaergrawnt a Silicon Valley, ond o amgylch dinasoedd prifysgol eraill, ac o amgylch lleoedd fel Leamington Spa. Gydag ansawdd y graddedigion TGCh a gynhyrchir ym mhrifysgolion Cymru, mae'n siom ddifrifol fod gan Gymru gyfran is o'i phoblogaeth yn gweithio i gwmnïau TGCh na gweddill y DU. Mae datblygu economi yn ymwneud â datblygu a hyrwyddo sectorau economaidd gwerth uchel. Ni fyddwn yn datblygu economi lwyddiannus a gwerth ychwanegol gros uchel ar gyflogau isel a gwaith tymhorol. Felly, rydym angen strategaeth ar gyfer pob un o'r sectorau twf a dargedir.