Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Weinidog, rwy'n croesawu eich ymateb cychwynnol yn fawr. Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru. Ond un o'r pethau diddorol, wrth ystyried yr agwedd hon o gael cyfran mewn cynhyrchiant ynni ac effeithlonrwydd ynni, yw y byddwch yn aml yn gweld—a byddwn yn cefnogi hyn fel aelod cydweithredol—y syniad o fodelau cyfranddaliadau, lle gallech gynnwys aelodau'r cyhoedd, ond mae'n tueddu i ymwneud â math penodol o aelod o'r cyhoedd, os mynnwch. Un o'r ffyrdd mwyaf y gallwn gynnwys pobl yw drwy sicrhau bod naill ai Llywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol yn rhanddeiliad ar ran pobl leol. A oes rhwystrau penodol y gallwn eu chwalu neu a oes ffyrdd y gallwn ei gwneud yn haws ac annog awdurdodau lleol i gymryd rhan weithredol mewn cynlluniau cynhyrchu ynni yn arbennig?