Caffael yn y Sector Cyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:05, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, roeddwn yn falch iawn o weld, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, y byddwch yn archwilio sut i osod targedau ystyrlon i gynyddu caffael sector cyhoeddus o'r 52 y cant presennol. Fel y nododd Paul Davies, bydd y caffael sector cyhoeddus hwn yn creu manteision economaidd enfawr i fusnesau lleol oherwydd y cyfraniad enfawr a wnânt i'w hardal leol. Y mis diwethaf, canmolodd y Prif Weinidog brosiect cronfa her cyngor sir Gaerfyrddin. Soniodd mai llaeth Cymru yw'r holl laeth a ddefnyddir mewn ysgolion yn sir Gaerfyrddin, ond yn anhygoel, mae'n rhaid mynd â rhywfaint o'r llaeth hwnnw nid yn unig y tu allan i sir Gaerfyrddin, ond y tu allan i'r wlad, y tu allan i Gymru, er mwyn iddo gael ei brosesu a'i botelu, a bod yr awdurdod lleol yn sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i wneud rhywfaint o waith i weld a ellir ail-greu'r capasiti prosesu ar sail gydweithredol yn y sir. Sut y gallwn sicrhau y gall arferion gorau o'r fath ym maes caffael ledaenu ar draws Cymru gyfan, gan gynnwys yn fy rhanbarth i, fel y gellir prynu a hyrwyddo mwy o gynhyrchion a gwasanaethau lleol yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf? Diolch yn fawr.