1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Rhagfyr 2021.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi caffael Llywodraeth Cymru yn y sector cyhoeddus? OQ57351
Yn dilyn ymgynghoriad, cafodd datganiad polisi caffael Cymru ei ddiweddaru a'i gyhoeddi ym mis Mawrth 2021, gan nodi egwyddorion lefel uchel i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein nodau llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol drwy gaffael. Ar 25 Tachwedd, cyhoeddwyd cynllun gweithredu yn nodi sut y byddwn yn cadw at y datganiad.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Bythefnos yn ôl, yn ystod dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar fusnesau bach, anogais Weinidog yr Economi i edrych ar ffyrdd o gryfhau ein harferion caffael i helpu busnesau bach lleol i wneud cais am gontractau sector cyhoeddus. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ymchwil sy'n dangos, am bob £1 y mae busnes bach yn ei dderbyn, fod 63c yn cael ei ailfuddsoddi yn yr economi leol, o'i gymharu â 40c ar gyfer cwmnïau mwy. Dyna pam mae'n hanfodol fod y system gaffael mor hygyrch â phosibl i fusnesau bach a'u bod yn cael pob cyfle i ennill contractau yn y lle cyntaf. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, ar y mater hwn? Ac yng ngoleuni Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus Cymru, sut y byddwch yn sicrhau bod busnesau bach yn gallu cystadlu'n deg am gontractau yn y dyfodol?
Mae hyn o ddiddordeb mawr o ran sicrhau bod gan yr arian a wariwn drwy gaffael yng Nghymru werth cymdeithasol, a chyflawnir hynny'n rhannol drwy gefnogi'r economi sylfaenol a chefnogi busnesau bach a chanolig eu maint yma yng Nghymru. Yn ystod y flwyddyn hon, rydym wedi cyhoeddi nifer o nodiadau polisi caffael Cymru, sydd yno i gefnogi'r broses gaffael. Roedd un yn benodol yn ymwneud â busnesau bach a chanolig eu maint a sut i sicrhau caffael sy'n ystyriol o fusnesau bach a chanolig. Mae hynny'n amlygu ac yn adeiladu ar yr egwyddorion yn y siarter 'Agor Drysau' ar gyfer caffael sy'n ystyriol o fusnesau bach a chanolig, a darparodd wybodaeth wedi'i diweddaru ac adnoddau ychwanegol i sefydliadau i gefnogi busnesau bach a chanolig. Mae hefyd yn ailadrodd yr ymrwymiadau a'r egwyddorion y cytunwyd arnynt rhwng sector cyhoeddus Cymru a busnesau bach a chanolig i bennu lefel ofynnol o arferion da ac annog caffael sy'n ystyriol o fusnesau bach a chanolig.
Yr ail nodyn polisi caffael Cymru rwyf eisiau tynnu sylw ato yw'r canllawiau ar gadw caffaeliadau is na'r trothwy ar gyfer awdurdodau contractio sector cyhoeddus Cymru, ac fe gyhoeddwyd hwnnw eleni. Mae'n annog sefydliadau o fewn y cwmpas i symleiddio caffael mewn perthynas â gwariant contractau ar nwyddau, gwasanaethau a chontractau gwaith sydd â gwerth is na'r trothwyon perthnasol. Ac eto, mae hynny yno i geisio sicrhau bod busnesau bach yn arbennig yn gallu cystadlu am y contractau hynny. Ond lle mae mwy i'w wneud yn y maes hwn, byddem yn awyddus i wneud hynny wrth gwrs. Credaf y bydd hyn hefyd yn rhan bwysig o'r gwaith rydym yn ei wneud i nodi a mapio bylchau yn y gadwyn gyflenwi sydd gennym yma yng Nghymru. Pan welwn fylchau, os gallwn ddod o hyd i fusnesau bach y gallwn eu tyfu neu eu haddasu i lenwi'r bylchau hynny a dod yn llwyddiannus, byddem eisiau gwneud hynny.
Weinidog, roeddwn yn falch iawn o weld, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, y byddwch yn archwilio sut i osod targedau ystyrlon i gynyddu caffael sector cyhoeddus o'r 52 y cant presennol. Fel y nododd Paul Davies, bydd y caffael sector cyhoeddus hwn yn creu manteision economaidd enfawr i fusnesau lleol oherwydd y cyfraniad enfawr a wnânt i'w hardal leol. Y mis diwethaf, canmolodd y Prif Weinidog brosiect cronfa her cyngor sir Gaerfyrddin. Soniodd mai llaeth Cymru yw'r holl laeth a ddefnyddir mewn ysgolion yn sir Gaerfyrddin, ond yn anhygoel, mae'n rhaid mynd â rhywfaint o'r llaeth hwnnw nid yn unig y tu allan i sir Gaerfyrddin, ond y tu allan i'r wlad, y tu allan i Gymru, er mwyn iddo gael ei brosesu a'i botelu, a bod yr awdurdod lleol yn sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i wneud rhywfaint o waith i weld a ellir ail-greu'r capasiti prosesu ar sail gydweithredol yn y sir. Sut y gallwn sicrhau y gall arferion gorau o'r fath ym maes caffael ledaenu ar draws Cymru gyfan, gan gynnwys yn fy rhanbarth i, fel y gellir prynu a hyrwyddo mwy o gynhyrchion a gwasanaethau lleol yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf? Diolch yn fawr.
Diolch. Rwy'n falch iawn fod hwn yn faes sydd o fewn y cytundeb cydweithio, i archwilio sut y gallwn gadw'r gwerth hwn yma yng Nghymru. Credaf ei fod yn adeiladu ar waith da a wnaed dros yr haf, sef ymarfer darganfod i greu cynllun digidol ar gyfer e-gaffael. Mae'n golygu y byddwn yn edrych ar lawer mwy o dryloywder drwy'r gadwyn gyflenwi, fel ein bod yn deall y problemau y mae Rhys ab Owen newydd eu disgrifio gyda llaeth yn cael ei gludo allan o'r wlad i'w brosesu, a'i gludo'n ôl at y plant mewn ysgolion. Mae honno'n enghraifft dda iawn o'r math o fwlch roeddwn yn sôn amdano'n gynharach, ond yn fwy felly ym maes capasiti prosesu. Gwn fod hwn yn faes sydd o ddiddordeb arbennig i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog materion gwledig, ac wrth gwrs, mae wedi bod yn ceisio cefnogi cynnydd yn y capasiti prosesu yma yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd. Ond byddaf yn sicr yn edrych ar yr hyn y mae cyngor sir Gaerfyrddin yn ceisio'i gyflawni a beth y gallwn ei ddysgu o hynny.
Bydd lledaenu arferion gorau yn bwysig iawn yn y gwaith a wnawn i gynyddu capasiti a gallu'r proffesiwn caffael yma yng Nghymru. Rydym wedi buddsoddi i gefnogi pobl drwy gymwysterau gradd ac yn y blaen yn y gobaith y byddant yn aros yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn dod yn weithwyr caffael proffesiynol sy'n gweithio mewn ffordd wahanol. Mae'n ymwneud â mwy na'r llinell sylfaen erbyn hyn, a deall fod pethau'n ymwneud llawer mwy â pha werth cymdeithasol, economaidd a diwylliannol y gallwch eu cael o'ch gwariant, yn hytrach na dim ond beth yw'r peth rhataf y gallwch ei brynu. Felly, rwy'n credu ein bod mewn lle cyffrous iawn o ran caffael, ac os gallwn edrych ar enghreifftiau da, fel yr hyn a ddisgrifir yn sir Gaerfyrddin, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.