Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:52, 15 Rhagfyr 2021

Ond nid dim ond gwrthod ffyrlo pan oedd Cymru wir ei angen e sydd yn fy mhoeni i, Gweinidog; mae’r modd mympwyol y mae’r Ceidwadwyr yn trin Cymru i’w weld mewn meysydd ariannu eraill, hefyd, wrth gwrs. Mae sgandal HS2 a gwrthod biliynau o bunnau a ddylai ddod i Gymru—pres mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn ei gael, wrth gwrs—yn enghraifft arall, fel hefyd mae’r modd y maen nhw wedi torri’u gair ar ariannu Ewropeaidd, gyda cholli cannoedd o filiynau o bunnau a fyddai wedi dod i Gymru, ond sydd bellach yn cael ei bocedu gan San Steffan. Does dim ffocws strategol i’r gronfa ffyniant cyffredin—eto, rhywbeth sy’n gweithredu ar fympwy’r Canghellor yn Downing Street. Mae yna batrwm yn fan hyn, onid oes? Patrwm sy’n cael ei adlewyrchu ar draws Llywodraeth San Steffan.

Nawr, dwi’n gwybod eich bod chi mor rhwystredig â fi oherwydd yr effaith trawsnewidiol y byddai’r cyllid yma yn ei gael petai yn ein cyrraedd ni, ond gaf i ofyn, felly: beth yn fwy allwch chi fel Llywodraeth ac y gallwn ni fel Senedd ei wneud i sicrhau bod Cymru yn cael yr arian sy’n ddyledus i ni a’n bod ni’n cael ein trin yn decach gan Lywodraeth San Steffan?