1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Peter Fox.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Weinidog, yn anffodus, mae ymddangosiad diweddar amrywiolyn omicron wedi creu mwy o ansicrwydd i bob un ohonom. Ac er fy mod yn mawr obeithio fel arall, mae ychydig fisoedd anodd o'n blaenau o bosibl. Yn ddealladwy, mae llywodraethau a gwyddonwyr yn ceisio deall goblygiadau'r amrywiolyn i iechyd y cyhoedd, ond mae sôn am gyfyngiadau ar y gorwel yn creu llawer o bryder ymysg busnesau, ar adeg pan oedd llawer yn gobeithio defnyddio cyfnod y Nadolig i adennill rhywfaint o'r incwm y maent wedi'i golli dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r cyfnod hwn yn arbennig o bwysig i'n sector lletygarwch a'r swyddi y mae'r galw ychwanegol hwn yn eu cefnogi. Rydym eisoes wedi gweld bod yr ansicrwydd a'r pryder eisoes yn dechrau cael effaith andwyol—mae bariau a bwytai wedi cael eu taro gan don o bobl yn canslo dros yr wythnosau diwethaf, tra bod ein busnesau twristiaeth hanfodol hefyd yn ofni effaith unrhyw gyfyngiadau.
Dywedodd y Prif Weinidog ddoe os—. O, esgusodwch fi—iPad. Dywedodd y Prif Weinidog ddoe, os bydd angen cyfyngiadau pellach dros yr wythnosau nesaf, y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried darparu cymorth ychwanegol i fusnesau y tu hwnt i’r hyn y gallai Gweinidog Llywodraeth y DU ei ddarparu. A allwch amlinellu sut olwg fydd ar y cymorth hwn, er mwyn helpu i leddfu unrhyw bryderon a allai fod gan fusnesau ar hyn o bryd ynglŷn â'r dyfodol? Hefyd, mae busnesau angen blaenoriaeth ar ddyfodol rhyddhad ardrethi annomestig, gyda nifer ohonynt yn wynebu dychweliad trychinebus i atebolrwydd 100 y cant ym mis Ebrill 2022. Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn ystyried ymestyn y seibiant ardrethi busnes annomestig i helpu busnesau drwy ran ddiwethaf y pandemig. A fydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich cyllideb sydd ar y ffordd? A allwch roi sicrwydd i fusnesau hefyd y byddwch yn defnyddio dull gweithredu trosiannol pan ddaw unrhyw gynllun cymorth yn y dyfodol i ben maes o law?
Diolch i Peter Fox am ei gwestiynau, a byddwn yn cydnabod yn arbennig popeth a ddywedodd am bwysigrwydd yr adeg hon o'r flwyddyn i'r busnesau hynny, yn enwedig yn y sectorau manwerthu a lletygarwch. Hoffwn roi sicrwydd i Peter Fox fy mod wedi bod yn cael trafodaethau gyda’r Prif Weinidog a fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, ynglŷn â pha gymorth y gallai fod angen ei ddarparu i fusnesau i gydnabod yr effaith y mae pandemig y coronafeirws yn parhau i’w chael ar fusnesau yma yng Nghymru. Yn anffodus, nid wyf mewn sefyllfa i amlinellu'r pecyn cyllid penodol y gallem fod yn ei ystyried ar hyn o bryd; ond hoffwn roi sicrwydd i chi fod y trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd gyda fy nghyd-Aelodau. Cefais gyfle i glywed yn uniongyrchol gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, yn un o'n cyfarfodydd partneriaeth yn ddiweddar, ac roeddent yn dweud yn glir iawn fod angen cefnogi busnesau. Cefais gyfle hefyd i gyfarfod â Chonsortiwm Manwerthu Cymru pan oeddwn yn paratoi ar gyfer y gyllideb. Felly, rwyf wedi cael cyfleoedd da iawn i wrando ar bryderon busnesau yn uniongyrchol.
Ac wrth gwrs, roedd ardrethi annomestig yn rhan fawr o'r sgyrsiau hynny, ac unwaith eto, hoffwn roi sicrwydd i Peter Fox a'r rheini yn y sector busnes y bydd gennyf fwy i'w ddweud ar hyn yn y gyllideb, y byddwn yn ei chyhoeddi ddydd Llun. Felly, nid oes gormod o amser i aros tan hynny, ond rwy'n wirioneddol falch o'r hyn rydym wedi gallu'i gyflawni drwy ein cymorth drwy ardrethi busnes yma yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, dros y ffin, roedd busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn dechrau talu ardrethi yn ystod yr haf eleni, tra bod ein busnesau yma wedi cael blwyddyn gyfan o ryddhad, sydd wedi bod yn wirioneddol wych yn fy marn i, ac wrth gwrs, mae'n gymorth i ni ar yr adeg arbennig o heriol hon o'r flwyddyn.
Diolch am eich ymatebion, ac mae'n swnio fel pe gallai fod rhywfaint o newyddion cadarnhaol. Rwy'n siŵr nad wyf am gael llawer o wybodaeth gennych am y gyllideb, ond rwyf am geisio. Felly, diolch am eich ymateb.
Wrth gwrs, nid yr economi yn unig sy'n wynebu cyfnod ansicr, ond ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd. Mae llawer o bwysau eisoes, fel y gŵyr pob un ohonom. Nid oes ond rhaid inni edrych ar yr amseroedd aros cyfredol ar gyfer triniaethau, sydd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y pandemig. Ac er bod gwasanaethau'n gwneud eu gorau glas i ymateb i'r heriau, ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf ynghylch maint y dasg sydd o'n blaenau, ni fydd yr amrywiolyn newydd ond yn ychwanegu at eu llwyth gwaith. Un ffordd o helpu i ryddhau rhywfaint o gapasiti yn y gwasanaethau iechyd yw sicrhau bod pobl sydd angen gofal cymdeithasol yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt yn y gymuned, neu wasanaethau arbenigol. Fodd bynnag, fel y mae pob un ohonom wedi clywed dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae ôl-groniad sylweddol yn y sector, gyda nifer annerbyniol o bobl yn aros i gael eu symud allan o'r ysbyty i'w cartref neu i gyfleuster gofal cymunedol. Er bod cynghorau a'u staff wedi gwneud gwaith gwych yn ymdrin ag effaith y pandemig, mae'n amlwg y bydd angen mwy o gymorth arnynt dros y misoedd nesaf. Mae llawer eisoes yn wynebu gorwariant enfawr mewn gwasanaethau plant ac oedolion, a bydd hyn yn ychwanegu at y pwysau ariannol sy'n wynebu ein gwasanaethau rheng flaen hanfodol. Weinidog, a wnewch chi roi'r codiad digonol sydd ei angen ar gynghorau yn y setliad llywodraeth leol fel y gallant ymateb i bwysau cyfredol a phwysau yn y dyfodol, a sut y bydd y gyllideb yn dyrannu'r cyllid canlyniadol sylweddol a ddaw i Gymru o ganlyniad i gyhoeddiadau diweddar ynghylch gofal cymdeithasol mewn rhannau eraill o'r DU?
Yn ychwanegol at hynny, mae angen cynllun hirdymor, uchelgeisiol arnom hefyd i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd a gofal cymdeithasol fel na fydd y sefyllfa hon yn codi eto ac er mwyn gwella cyfraddau recriwtio a chadw. Er mwyn ein llywio i'r cyfeiriad cywir, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am dâl o £10 yr awr fan lleiaf i bob gweithiwr gofal cymdeithasol, ac rwy'n gobeithio bod safbwynt Plaid Cymru yn dal i fod yr un fath yn hynny o beth. Weinidog, sut y bydd eich cyllideb yn dechrau mynd i’r afael â’r gwahaniaeth rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd yng Nghymru?
Diolch am godi'r mater pwysig hwn. Rwyf am ddechrau drwy gyfeirio at ein sefyllfa yn ystod y flwyddyn gyda'r cymorth ychwanegol rydym wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol mewn perthynas â phandemig y coronafeirws a'r pwysau enfawr y mae'n ei roi ar ofal cymdeithasol yn benodol. Fe fyddwch yn gyfarwydd â'r cyllid gwerth £42 miliwn rydym wedi'i ddarparu ar gyfer mynd i'r afael â'r pwysau ar ofal cymdeithasol, yn ychwanegol at y gronfa adfer gofal cymdeithasol a ddyrannodd £40 miliwn pellach i awdurdodau lleol, i helpu'r sector i ymdopi â'r pwysau parhaus. Fodd bynnag, cyfeiriodd Peter Fox at y materion parhaus mewn perthynas â gwasanaethau plant a gofal cymdeithasol oedolion, yn ogystal â'r angen i ychwanegu at hynny er mwyn cefnogi gofalwyr. Hoffwn roi sicrwydd i Peter Fox fod fy swyddogion yn trafod â thrysoryddion llywodraeth leol i ddeall hyd a lled y pwysau hwnnw, ond rwy’n bwriadu ysgrifennu ar unwaith at arweinydd CLlLC i nodi’r amlen o gyllid pellach i gefnogi awdurdodau lleol gyda hynny yn y flwyddyn ariannol hon.
Wrth edrych tuag at y gyllideb, a gaiff ei chyhoeddi ddydd Llun, a heb fod eisiau manylu gormod, hoffwn ddweud yr hyn rydym wedi'i ddweud bob amser, sef y bydd gofal cymdeithasol ac iechyd yn flaenoriaethau ochr yn ochr â'r pwysau ehangach ar lywodraeth leol yn y gyllideb, y byddwn yn ei chyhoeddi ddydd Llun—felly, nid oes gormod o amser cyn y gallwn rannu manylion y cynlluniau hynny gyda chi.
Diolch am hynny, unwaith eto, Weinidog. Credaf fod y gorwariant y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu gyda gofal plant ac oedolion oddeutu £50 miliwn ar hyn o bryd.
Gan symud ymlaen at fy mhwynt olaf, Weinidog, bydd y cyfnod ansicr rydym yn ei wynebu unwaith eto yn gwaethygu'r problemau y mae teuluoedd ledled Cymru eisoes yn eu hwynebu. Nawr, gwn fod hwn yn fater sy'n ymwneud â phob rhan o'r Llywodraeth, ond hoffwn ganolbwyntio ar ba gymorth ychwanegol fydd yng nghyllideb yr wythnos nesaf er mwyn helpu i leddfu'r beichiau sy'n wynebu teuluoedd. Roedd rhai pethau i'w croesawu yn y cytundeb cydweithio at ei gilydd, er enghraifft yr ymrwymiad i ehangu gofal plant i gynnwys plant dwy oed, a oedd hefyd yn rhan o faniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig. Fodd bynnag, mae'r amser ar gyfer siarad drosodd, ac mae angen inni weld camau gweithredu ar unwaith. A fydd eich cyllideb yn darparu'r cyllid sydd ei angen er mwyn rhoi hwb i'r broses o ehangu gofal plant am ddim fel y gellir helpu teuluoedd dros y misoedd nesaf? Fodd bynnag, yn anffodus, roedd y cytundeb braidd yn brin o fanylion mewn mannau, felly mae angen inni weld pecyn cymorth ehangach i bobl a theuluoedd.
Un ffordd o helpu cyllid pobl yw rhewi'r dreth gyngor, am y ddwy flynedd nesaf o leiaf, gan roi mwy o arian ym mhocedi pobl. A fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio peth o'r cyllid ychwanegol sylweddol a ddisgwylir i roi'r gallu i awdurdodau lleol ymdopi â phwysau costau a rhewi'r dreth gyngor? Yn ogystal, mae prisiau tai yng Nghymru wedi codi’n gyflymach nag unrhyw ran arall o’r DU. Mae angen inni wneud mwy i helpu pobl i gamu ar yr ysgol dai, yn ogystal ag adeiladu'r cartrefi cymdeithasol o ansawdd uchel y mae eu hangen yn enbyd yng Nghymru, gan alluogi dyhead a darparu'r diogelwch sydd ei angen ar bobl. A wnewch chi weithio i dorri cyfraddau treth trafodiadau tir, cael ei gwared ar gyfer prynwyr tro cyntaf a chodi'r trothwy i £250,000? Ac a wnewch chi ddarparu setliad cyllid mwy hirdymor i'r grant cymorth tai er mwyn rhoi hwb i'r gwaith o adeiladu cartrefi cymdeithasol? Yn olaf, a wnewch chi hefyd ymrwymo i sicrhau na fydd cyfraddau treth incwm Cymru yn codi drwy gydol tymor y Senedd, fel rhan o'ch cynlluniau gwariant? Diolch, Weinidog.
Diolch i Peter Fox am y gyfres honno o gwestiynau, a bydd pob un ohonynt yn dod yn glir pan gyhoeddir y gyllideb ddydd Llun. Ond hoffwn ymateb i rai o'r materion hynny, yn enwedig ynglŷn â'r cytundeb cydweithio. Rydym wedi gweithio'n agos ac yn ofalus gyda Phlaid Cymru i sicrhau bod yr eitemau yn y cytundeb cydweithio'n cael eu hariannu, a bod modd eu cyflawni. Felly, rydym wedi bod yn ofalus iawn gyda'r math hwnnw o waith fforensig i sicrhau bod y cytundeb cydweithio'n gyflawnadwy a'i fod yn rhan ddi-dor, mewn gwirionedd, o'n cyllideb gyffredinol.
Ac yna credaf fod angen imi roi'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf mewn rhyw fath o gyd-destun, oherwydd, do, rydym wedi cael codiad sylweddol ym mlwyddyn gyntaf yr adolygiad o wariant tair blynedd, ond mae'r ddwy flynedd wedyn yn dynn eithriadol. A chredaf fod angen inni ystyried y codiad cychwynnol yn y flwyddyn gyntaf yn ei gyd-destun, gan nad yw ond yn gynnydd mawr os ydych yn rhannu'r holl gyllid COVID rydym wedi'i gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Os ydych yn diystyru'r holl gyllid COVID ychwanegol a gawsom eleni, mae ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn is nag eleni mewn gwirionedd, a chredaf fod angen inni gofio hynny, o ystyried y ffaith nad yw COVID yn diflannu a gwelwn hynny'n cael ei adlewyrchu'n fawr yn yr heriau rydym yn eu hwynebu yn awr gyda'r straen newydd, yr amrywiolyn newydd. Credaf fod cyd-destun yn hollbwysig mewn perthynas â'r gyllideb. Ond rwy'n gobeithio y bydd fy nghyd-Aelodau'n fodlon ar yr hyn y gwelant y gallaf ei ddarparu pan gyflwynir y gyllideb ddydd Llun. Diolch.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ydy, mae omicron yn taflu cysgod mawr dros Gymru'r Nadolig yma onid yw, ac, er na allwn ni ragweld efallai yn union beth fydd goblygiadau'r amrywiolyn i iechyd y cyhoedd ac i'r NHS, rydym ni eisoes yn gweld ei effaith e, onid ydym, er enghraifft, ar y sector lletygarwch, fel gwnaethoch chi gydnabod yn gynharach. So, i ddilyn i fyny ar eich ateb blaenorol chi, a allwch chi esbonio pam nad ydych chi, fel Gweinidog cyllid, yn bwriadu rhyddhau rhagor o gyllid i gefnogi'r sector lletygarwch nawr? Oherwydd mae'r ergyd a'r effaith i'r busnesau yna yn cael eu teimlo ar hyn o bryd wrth inni siarad. Dyw dweud, 'Arhoswch tan i fi gyhoeddi fy nghyllideb ddydd Llun' ddim yn datrys y broblem, oherwydd ymrwymiadau gwariant o fis Ebrill nesaf ymlaen fydd y rheini.
Yn sicr. Ymddiheuriadau os nad oeddwn yn glir. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried, heddiw, pa arian ychwanegol y gallai fod ei angen ar fusnesau i'w cefnogi drwy'r cyfnod nesaf hwn. Felly, cyn dod i'r sesiwn hon, cefais fy nghyfarfod diweddaraf gyda'r Prif Weinidog, a buom yn sôn am y cymorth y gallai fod ei angen ar fusnesau, ac yna mae trafodaethau pellach ar y gweill gennym gyda Gweinidog yr Economi. Felly, mae'r rhain yn drafodaethau byw iawn ac rwy'n cydnabod brys y sefyllfa. Rwy'n credu bod hynny ar wahân i'r gyllideb, a fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun nesaf, ac a fydd yn edrych ar y cyfnod o fis Ebrill ymlaen. Ond hoffwn roi sicrwydd fod y trafodaethau ar gymorth i fusnesau yn fyw iawn ar hyn o bryd.
Dyna fe. Wel, diolch am y sicrwydd hynny. Dwi’n meddwl bod pob un ohonom ni’n gobeithio bydd modd darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen mor fuan ag sy’n bosibl.
Ond, rŷn ni i gyd, wrth gwrs, yn cofio sut wnaeth Llywodraeth San Steffan anwybyddu cais Cymru i estyn taliadau ffyrlo pan aethon ni i mewn i’r firebreak y llynedd, a dim ond ar ôl i Loegr fynd i mewn i firebreak wedyn y gwnaethon nhw gyflwyno’r gefnogaeth i ni yma yn sgil hynny. Nawr, fe allem ni, wrth gwrs, fod yn wynebu sefyllfa debyg dros y misoedd nesaf. Felly, gaf i ofyn pa drafodaethau ydych chi fel Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod trigolion Cymru ddim yn cael eu cosbi a ddim yn methu allan ar gefnogaeth gan y Trysorlys yn Llundain petai ni’n gorfod cymryd camau yn fan hyn sy’n wahanol, wrth gwrs, i'r rhai, efallai, bydd y Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr yn eu cymryd?
Yn sicr. Felly, credaf y byddai'n gwbl annerbyniol pe byddem mewn sefyllfa, fel y digwyddodd pan wnaethom gyflwyno'r cyfnod atal byr yn gynharach yn y pandemig, pan na ddarparodd Llywodraeth y DU unrhyw gymorth ariannol ychwanegol, ond cyn gynted â bod angen iddynt gymryd camau tebyg, roedd y cynllun ffyrlo ar gael yn sydyn iawn. Mae'r sefyllfa honno'n gwbl annerbyniol. Nid ydym yn gwybod beth i ddisgwyl gyda'r pandemig hwn a pha fesurau a allai fod yn angenrheidiol dros y misoedd i ddod, felly credaf fod cael fframwaith clir gyda Llywodraeth y DU ynghylch pryd y dylai cyllid fod ar gael ac o dan ba amgylchiadau yn gwbl hanfodol.
Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu, ochr yn ochr â Phrif Weinidog yr Alban, at Lywodraeth y DU ar yr union fater hwn. Fy nealltwriaeth i yw nad ydynt wedi cael ymateb eto, felly rwyf wedi ysgrifennu eto y bore yma at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn amlinellu'r mater penodol hwnnw a'r angen am sicrwydd yn hynny o beth. Ond wedyn hefyd, gan godi mater gwarant COVID eto, oherwydd yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwnaethom negodi gwarant COVID, a roddodd swm craidd i ni ar gyfer gwariant COVID, a ganiataodd inni gynllunio, a ganiataodd inni wneud y gorau o gyfleoedd, ac a ganiataodd inni ddeall y risgiau roeddem yn eu hwynebu, gan ein bod yn ymwybodol o'r cyfanswm y byddem yn ei dderbyn. Er iddo barhau i newid drwy gydol y flwyddyn, roedd yn ddechrau da o leiaf. Felly, rydym yn gofyn am adfer y warant hynny yng ngoleuni'r sefyllfa bresennol, ac rwy'n gobeithio ei fod yn rhywbeth y bydd Llywodraeth y DU yn cytuno i'w wneud, gan ei fod i'w weld yn hyblygrwydd rhesymol y byddent yn gallu ei ddarparu i ni.
Ond nid dim ond gwrthod ffyrlo pan oedd Cymru wir ei angen e sydd yn fy mhoeni i, Gweinidog; mae’r modd mympwyol y mae’r Ceidwadwyr yn trin Cymru i’w weld mewn meysydd ariannu eraill, hefyd, wrth gwrs. Mae sgandal HS2 a gwrthod biliynau o bunnau a ddylai ddod i Gymru—pres mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn ei gael, wrth gwrs—yn enghraifft arall, fel hefyd mae’r modd y maen nhw wedi torri’u gair ar ariannu Ewropeaidd, gyda cholli cannoedd o filiynau o bunnau a fyddai wedi dod i Gymru, ond sydd bellach yn cael ei bocedu gan San Steffan. Does dim ffocws strategol i’r gronfa ffyniant cyffredin—eto, rhywbeth sy’n gweithredu ar fympwy’r Canghellor yn Downing Street. Mae yna batrwm yn fan hyn, onid oes? Patrwm sy’n cael ei adlewyrchu ar draws Llywodraeth San Steffan.
Nawr, dwi’n gwybod eich bod chi mor rhwystredig â fi oherwydd yr effaith trawsnewidiol y byddai’r cyllid yma yn ei gael petai yn ein cyrraedd ni, ond gaf i ofyn, felly: beth yn fwy allwch chi fel Llywodraeth ac y gallwn ni fel Senedd ei wneud i sicrhau bod Cymru yn cael yr arian sy’n ddyledus i ni a’n bod ni’n cael ein trin yn decach gan Lywodraeth San Steffan?
Credaf fod y Senedd bob amser ar ei gorau pan ddown o hyd i feysydd y gall pob un ohonom gytuno arnynt, ac yn y gorffennol, rydym wedi gallu dod o hyd i gefnogaeth drawsbleidiol ar draws y Senedd i amryw o faterion pan oedd angen inni bwyso ar y Trysorlys, ac yn sicr yng nghyd-destun Brexit. Felly, credaf fod llawer y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i bwysleisio'r pwyntiau hyn ynglŷn â thegwch, ynglŷn â sicrhau bod y datganiad o bolisi ariannu yn fwy na dogfen yn unig, a'i fod yn cael ei wireddu ac y cedwir ato. Felly, rydym yn ceisio gweithio drwy hynny gyda'r Trysorlys.
Credaf y byddai unrhyw ymdrechion y gallai Llywodraeth y DU eu gwneud i sicrhau bod y strwythur cysylltiadau rhynglywodraethol newydd yn gweithio yn bwysig. A'r lle gorau y gallant wneud hynny, a'r lle pwysicaf, fyddai drwy'r strwythurau cyllid. Felly, bydd yr holl bwyntiau hynny a nodwyd gennych—HS2, cyllid Ewropeaidd ac ati—yn bwysig. Gallwn fynd ymlaen i sôn am gyllid tomenni glo, er enghraifft. Er inni gyflwyno dadleuon cryf iawn, a gefnogwyd gan y gymdeithas ehangach yng Nghymru, ynghylch y ffaith y dylai cyllid tomenni glo ddod gan Lywodraeth y DU gan fod hynny'n rhagflaenu datganoli—gwnaed yr holl ddadleuon hynny'n dda—ni ddigwyddodd hynny, ac wrth gwrs, bydd yn rhaid ichi weld yn awr sut rydym yn adlewyrchu cyllid ar gyfer tomenni glo yn y gyllideb yr wythnos nesaf. Ond pan edrychwn ar hynny, cofiwch fod hwnnw'n gyllid na allwn ei wario ar seilwaith mewn meysydd y credwn ein bod yn gyfrifol amdanynt go iawn. Felly, ni allwn anghytuno ag unrhyw beth a nodwyd gan Llyr Gruffydd yn ei gwestiwn, a dweud y gwir. Ac os gallwn ddod o hyd i ffyrdd o weithio gyda'n gilydd i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i wneud y peth iawn, rwyf bob amser yn barod i edrych am ffyrdd o wneud hynny.