Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Bythefnos yn ôl, yn ystod dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar fusnesau bach, anogais Weinidog yr Economi i edrych ar ffyrdd o gryfhau ein harferion caffael i helpu busnesau bach lleol i wneud cais am gontractau sector cyhoeddus. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ymchwil sy'n dangos, am bob £1 y mae busnes bach yn ei dderbyn, fod 63c yn cael ei ailfuddsoddi yn yr economi leol, o'i gymharu â 40c ar gyfer cwmnïau mwy. Dyna pam mae'n hanfodol fod y system gaffael mor hygyrch â phosibl i fusnesau bach a'u bod yn cael pob cyfle i ennill contractau yn y lle cyntaf. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, ar y mater hwn? Ac yng ngoleuni Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus Cymru, sut y byddwch yn sicrhau bod busnesau bach yn gallu cystadlu'n deg am gontractau yn y dyfodol?