Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:33, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Do, arswydais wrth weld y rhaglen y cyfeirioch chi ati. Mae tocio clustiau cŵn yn anghyfreithlon, mae'n ddiangen ac rwy'n siŵr ei fod yn hynod o boenus ac nid oes unrhyw fanteision i les nac iechyd y ci. Am resymau cosmetig yn unig y caiff ei wneud mewn gwirionedd, er mwyn gwneud i'r cŵn edrych yn fwy milain, a chredaf ei fod yn gwbl wrthun.

Mae'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) sydd ar y ffordd yn ceisio cyfyngu ar fewnforio cŵn. Fel y dywedwch, Bil Llywodraeth y DU ydyw wrth gwrs, ond mae'n ceisio cyfyngu ar fewnforio cŵn a chŵn bach sydd wedi cael eu hanffurfio, ac yn amlwg mae hynny'n cynnwys tocio clustiau. A chredaf y bydd cyfyngu ar eu mewnforio yn cryfhau gallu ein swyddogion gorfodi i allu adnabod cŵn o'r fath yn haws ac erlyn y rhai sy'n ymwneud â thocio clustiau'n anghyfreithlon yng Nghymru a ledled y DU. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, ac yn cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â hyn.