Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:34, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ac yn olaf, Weinidog, roeddwn yn falch o arwain dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar les anifeiliaid y mis diwethaf, a welodd y Llywodraeth yn cael ei threchu a'r cynnig yn cael ei basio heb ei ddiwygio yn y Senedd. Roedd hi'n braf gweld yr agwedd gytbwys a meddwl agored a oedd gan bawb yn ystod y ddadl, ac rwy'n gobeithio y gall hyn barhau.

Rwy'n ymwybodol o lythyr a gawsoch gan Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru, a fynegodd bryder ynghylch peth o'r hyn a hepgorwyd, er ei fod yn croesawu rhai agweddau ar gynllun gweithredu lles anifeiliaid eich Llywodraeth. Un mater felly oedd absenoldeb unrhyw gyfeiriad at gyflwyno rheoliadau ar fridio cathod. A gaf fi ofyn am eich ymrwymiad heddiw i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi rheoliadau bridio cathod a chŵn ar sail gyfartal a sicrhau y bydd cathod bach a gaiff eu bridio yng Nghymru yn gallu mwynhau'r un lefelau uchel o les a diogelwch ag a roddir i gŵn bach?