Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod, fel finnau, Weinidog, yn gallu deall y pryder enfawr y mae busnes a theulu ffermio yn ei wynebu pan gânt lythyr gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ynghylch profion TB a chyfyngiadau ar eu buches a'u fferm. Mae fy nghwestiwn penodol yn ymwneud â theuluoedd ffermio'n cael llythyrau gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn eu hysbysu, ar gam, nad ydynt wedi cwblhau profion TB, pan fydd y profion priodol wedi'u cynnal mewn gwirionedd. Yn aml, anfonir llythyrau ar gam oherwydd camgyfathrebu rhwng milfeddygfeydd a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, i chi a'ch swyddogion edrych ar y broses hon? Byddwn yn awgrymu bod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn cyfathrebu â milfeddygfeydd i gael cadarnhad ac eglurhad cyn anfon llythyrau, gan achosi straen a phryder diangen i ffermwyr yn y ffordd honno, a dylid osgoi hynny yn y lle cyntaf. Tybed a allai'r Gweinidog wneud sylwadau ynglŷn ag a yw'n ymwybodol o'r mater penodol hwn ac a fyddai'n fodlon ailedrych ar y broses honno.