2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 15 Rhagfyr 2021.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â ffermwyr ynghylch sefyllfaoedd posibl lle ceir achosion o TB? OQ57349
Diolch. Mae'r Llywodraeth yn cyfathrebu â busnesau fferm drwy ohebiaeth a datganiadau gwybodaeth rheolaidd, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr achosion o glefydau a'r tueddiad yn ôl ardal. Cynigir ymweliadau cyngor milfeddygol Cymorth TB i ffermwyr ac fe'u hanogir i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein fel y dangosfwrdd TB a'r ibTB i gael gwell dealltwriaeth o'r risg i'w busnesau.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod, fel finnau, Weinidog, yn gallu deall y pryder enfawr y mae busnes a theulu ffermio yn ei wynebu pan gânt lythyr gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ynghylch profion TB a chyfyngiadau ar eu buches a'u fferm. Mae fy nghwestiwn penodol yn ymwneud â theuluoedd ffermio'n cael llythyrau gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn eu hysbysu, ar gam, nad ydynt wedi cwblhau profion TB, pan fydd y profion priodol wedi'u cynnal mewn gwirionedd. Yn aml, anfonir llythyrau ar gam oherwydd camgyfathrebu rhwng milfeddygfeydd a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, i chi a'ch swyddogion edrych ar y broses hon? Byddwn yn awgrymu bod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn cyfathrebu â milfeddygfeydd i gael cadarnhad ac eglurhad cyn anfon llythyrau, gan achosi straen a phryder diangen i ffermwyr yn y ffordd honno, a dylid osgoi hynny yn y lle cyntaf. Tybed a allai'r Gweinidog wneud sylwadau ynglŷn ag a yw'n ymwybodol o'r mater penodol hwn ac a fyddai'n fodlon ailedrych ar y broses honno.
Diolch, ac rwy'n deall y straen a'r gofid y byddai hynny'n ei achosi i ffermwr a'i deulu. Nid wyf yn credu eich bod yn cyfeirio at fater sy'n digwydd yn helaeth, ond wrth gwrs, byddwn yn hapus iawn i ofyn i'r prif swyddog milfeddygol a'i thîm o swyddogion gael golwg arno.