Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Diolch, Drefnydd. Cyn imi ofyn fy nghwestiwn, hoffwn ddiolch i'r Aelodau a ymunodd â Luke Fletcher a minnau ar risiau'r Senedd yr wythnos diwethaf i gyfarfod a chlywed gan berchnogion milgwn a arferai rasio, lle cawsom gyfarfod â chryn dipyn o filgwn hefyd, a chlywed pryderon ynglŷn â rasio milgwn yng Nghymru.
Gwerthwyd trac rasio milgwn y Valley yn Ystrad Mynach yn ddiweddar gyda'r bwriad o'i wneud yn un o draciau trwyddedig Bwrdd Milgwn Prydain Fawr. Rhagwelir y bydd y cynnydd yn nifer y rasys yn arwain at bedair gwaith yn fwy o gŵn yn rasio ac felly, angen cartrefi pan na fydd mo'u hangen ar y diwydiant mwyach. Gwyddom fod sefydliadau lles yn ei chael hi'n anodd ymdopi ar hyn o bryd â'r 100 neu fwy o filgwn sy'n gadael y trac bob blwyddyn, ar ben y cŵn sydd angen eu hailgartrefu. Weinidog, tybed a wnewch chi ystyried atal gwaith ehangu ar drac y Valley hyd nes eich bod wedi cael cyfle i ystyried ein cais i wahardd rasio milgwn yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.