Ailgartrefu Cŵn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:58, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, ac mae'n ddrwg gennyf na allwn ymuno â chi ar risiau'r Senedd yr wythnos diwethaf, ond diolch am drefnu'r digwyddiad hwnnw. Fel y gŵyr Jane Dodds ac Aelodau eraill, mae gan y Pwyllgor Deisebau alwad fyw ar hyn o bryd i wahardd rasio milgwn yng Nghymru, a bwriad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw ystyried rasio milgwn yng Nghymru fel rhan o gynllun trwyddedu yn y dyfodol, fel y nodir yn ein cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd ar gyfer Cymru. Roeddwn yn ymwybodol fod sôn am newid perchnogaeth yn achos y trac rasio rydych newydd gyfeirio ato, ac yn amlwg byddai unrhyw waith i ehangu'r trac a'i gyfleusterau yn y dyfodol yn amodol ar reolau cynllunio, ac ni fyddwn yn gallu atal hynny wrth gwrs. Ond yng ngoleuni'r hyn y mae Jane Dodds newydd ei ddweud wrthyf, byddaf yn sicr yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud mewn perthynas ag ystyried rasio milgwn fel rhan o'r cynllun trwyddedu yn y dyfodol tra byddaf yn aros am ganlyniad y Pwyllgor Deisebau hefyd.