Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 15 Rhagfyr 2021.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod yng ngogledd Cymru i hyrwyddo bwyd a diod gan ddefnyddio ystod eang o raglenni busnes. Roedd cynhyrchwyr gogledd Cymru yn ein digwyddiad BlasCymru unigryw yn ddiweddar, ac yn ddiweddar hefyd lansiais y weledigaeth newydd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod sy'n nodi sut y gellir cyflawni twf cynaliadwy.