2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 15 Rhagfyr 2021.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo bwyd a diod o Ogledd Cymru? OQ57373
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd a diod yng ngogledd Cymru i hyrwyddo bwyd a diod gan ddefnyddio ystod eang o raglenni busnes. Roedd cynhyrchwyr gogledd Cymru yn ein digwyddiad BlasCymru unigryw yn ddiweddar, ac yn ddiweddar hefyd lansiais y weledigaeth newydd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod sy'n nodi sut y gellir cyflawni twf cynaliadwy.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y bydd pob Aelod dros Zoom yn cytuno, rwy'n siŵr, mae hon yn adeg ardderchog o'r flwyddyn i fod yn hyrwyddo ac yn blasu bwyd a diod gwych o bob cwr o Gymru, a daw'r goreuon, wrth gwrs, o fy rhanbarth i yn y gogledd. Ac rwy'n siŵr eich bod yn gwybod, Weinidog, fod gennym hyb bwyd a diod byd-enwog yng ngogledd Cymru, boed yn selsig arobryn gan Edwards o Gonwy neu'r cig organig o ystâd Rhug yng Nghorwen, ac wrth gwrs i olchi'r cyfan i lawr mae jin Aber Falls ger Llanfairfechan ac rwy'n siŵr eich bod yn gwybod am Lager Wrecsam wrth gwrs, ymhlith llawer o fwydydd a diodydd rhagorol eraill. Hefyd, Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fod gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru elfen waith benodol sy'n canolbwyntio ar y sector bwyd-amaeth, ac mae wedi cael hwb sylweddol yn ddiweddar gyda chymeradwyaeth i achos busnes amlinellol ar gyfer canolfan economi wledig newydd yng Nglynllifon. Disgwylir i ganolfan economi wledig Glynllifon ddarparu dros 100 o swyddi llawnamser mewn busnesau bwyd lleol a chynnydd gwerth ychwanegol gros o tua £50 miliwn mewn ardal bwysig iawn yng Nghymru. Felly, Weinidog, pa gamau y byddwch chi a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod y cynlluniau hyn yng Nglynllifon yn dwyn ffrwyth, i wneud i'r sector bwyd a diod yng ngogledd Cymru ffynnu hyd yn oed yn fwy? Diolch.
Diolch, a diolch am roi'r cyfle imi gytuno â chi ynglŷn â sut y mae'n adeg dda o'r flwyddyn i brynu ein bwyd a'n diod gwych o Gymru. Mae bob amser yn beth da, ac roedd yn wych bod yn y ffair aeaf y mis diwethaf, a gweld y neuadd fwyd, a gweld pobl yn llythrennol yn ciwio yn yr awyr agored am amser hir i allu prynu bwyd a diod o Gymru unwaith eto ar faes sioe Frenhinol Cymru.
Cytunaf â chi am y gwaith sy'n parhau i gael ei wneud yn awr yng Nglynllifon. Ymwelais â'r lle y mis diwethaf i gael golwg ar eu cynlluniau ar ei gyfer, a byddaf yn parhau i wneud popeth yn fy ngallu. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r Ganolfan Technoleg Bwyd, a phrosiect HELIX, sy'n cael ei gyflawni yn Llangefni. Rwy'n credu y bydd y ddau'n cydgysylltu â'i gilydd yn dda iawn.
Rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, am ofyn y cwestiwn pwysig hwn heddiw. A gaf fi gytuno ag ef a'r Gweinidog, am yr hyn y mae hi wedi'i ddweud hefyd? Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol iawn fy mod yn hynod o angerddol am y cyfraniad cadarnhaol y gall bragwyr a thafarndai lleol ei wneud i'n heconomi leol, a bragdai rhagorol fel y rhai yn sir y Fflint, Hafod a Polly's, neu'r Lager Wrecsam ardderchog yn eich etholaeth eich hun, fel y nododd Sam Rowlands, sydd unwaith eto wedi ennill gwobr arall—gwobr aur arall—am eu lager pilsner Bootlegger byd-enwog.
Nawr, Weinidog, yn y Senedd ddiwethaf, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai yn y Senedd yn llwyddiannus, ac rydym ar fin ailymgynnull y grŵp pwysig hwn yn y flwyddyn newydd. A wnewch chi ymrwymo heddiw i ddod i ymwneud â'r grŵp yn y flwyddyn newydd, a dangos sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r sector pwysig hwn ledled Cymru?
Diolch i Jack Sargeant. Rwy'n falch iawn eich bod yn ailymgynnull y grŵp yn y flwyddyn newydd, ac wrth gwrs byddaf yn hapus iawn i ddod draw i'ch cefnogi ym mha ffordd bynnag y gallaf. Fel y dywedwch, yn ein rhan ni o ogledd-ddwyrain Cymru mae gennym nifer o ficrofusnesau, bragdai a llawer o dafarndai lleol sy'n gwerthu'r cwrw hwnnw, felly mae'n dda iawn gallu dweud unwaith eto wrth bobl, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn o COVID rydym yn ei wynebu yn awr, 'Mae'n dda iawn cefnogi'r bragwyr lleol hynny.'
A gaf fi ddweud wrth fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, y byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn ymuno â'r grŵp trawsbleidiol hwnnw? Weinidog, os caf fynd yn ôl tua 10 mlynedd, rwy'n cofio Cadwyn Clwyd, asiantaeth ddatblygu ranbarthol, yn sicrhau £14 miliwn o gyllid yr UE i hybu'r economi wledig yn sir y Fflint a sir Ddinbych. Daeth mwy o gyllid i mewn i asiantaethau ar draws gogledd Cymru fel Partneriaeth Gogledd Gororau Cymru, Menter a Busnes a Menter Môn. Roedd yr arian hwn yn gymorth i lawer o gynlluniau hyrwyddo bwyd, megis gŵyl fwyd yr Wyddgrug, ac ariannu canolfan gynnyrch leol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gydag 16 o gyflenwyr bwyd a diod o bob rhan o ogledd Cymru. Mae wedi helpu i sefydlu llwybr bwyd bryniau Clwyd, ac wedi helpu i ariannu prosiect eirin Dinbych, ymhlith pethau eraill. Ond Weinidog, rwy'n pryderu am golli cyllid Ewropeaidd i'r sector bwyd drwy Lywodraeth Cymru. A ydych chi'n gwybod y daw arian newydd gan Lywodraeth y DU fel yr addawyd? Diolch.
Bydd y diwydiant bwyd a diod yn parhau i dderbyn cyllid sylweddol drwy'r rhaglen datblygu gwledig hyd nes y daw'r rhaglen honno i ben yn 2023. Yn anffodus, 'na' yw'r ateb byr i'ch cwestiwn. Bydd Cymru'n colli dros £106 miliwn o gyllid newydd yr UE ar gyfer datblygu gwledig dros gyfnod yr adolygiad o wariant. Mae hynny ar ben y £137 miliwn nad wyf wedi'i gael gan Lywodraeth y DU yn ystod y flwyddyn ariannol hon, felly mae'r mantra 'dim ceiniog yn llai' yn swnio'n wag iawn, mae arnaf ofn. Fe fyddwch yn gwybod fy mod i a fy nghyd-Weinidogion, yn enwedig y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, wedi parhau i lobïo Llywodraeth y DU, yn enwedig ar y fethodoleg y maent wedi'i defnyddio i wneud eu symiau. Yn amlwg, mae'n rhaid inni ystyried hynny wrth inni gyflwyno'r gyllideb ddrafft yr wythnos nesaf. Fodd bynnag, hoffwn ddweud bod gwyliau bwyd yn ffordd ragorol yn fy marn i o hyrwyddo ein bwyd a'n diod gwych o Gymru ac rwyf wedi gwneud popeth a allaf i barhau i'w hyrwyddo, yn amlwg, a'u cefnogi. Nid ydym wedi gallu cynnal cymaint o rai rhithwir eleni ag y byddem wedi bod eisiau—rhai yn y cnawd, mae'n ddrwg gennyf—ond rydym wedi llwyddo i wneud rhywfaint o waith rhithwir dros y flwyddyn ddiwethaf hefyd.
Er tegwch, o ystyried y rhestr hir o fwydydd a diodydd o'r gogledd a hyrwyddwyd gan yr Aelodau yn awr, teimlaf fod angen imi ddweud bod bwyd a diod arall ar gael o rannau eraill o Gymru, ac ar gael i bawb cyn y Nadolig, gobeithio.