Lles Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 15 Rhagfyr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:52, 15 Rhagfyr 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwyf wedi codi hyn gyda chi nifer o weithiau yn awr—yn sicr, yn ystod y pumed tymor—ond rwy'n dal i bryderu fwyfwy am nifer y fideos a'r lluniau sy'n cael eu gosod ar Facebook a safleoedd cyfryngau cymdeithasol eraill gydag iaith farchnata fel 'un ci bach ar ôl'. Yn wir, rwyf ar Facebook yn awr yn darllen, 'A all rhywun fy helpu i ddod o hyd i gartref ar gyfer y ci bach bach hwn? O, hyfryd, faint mae'n gostio? Dim cost'. 'Pam eu bod yn cael gwared arno?', ac maent yn dweud, 'O, ymrwymiadau gwaith'. Felly, mae fy mhryderon wedi'u hadlewyrchu mewn adroddiad diweddar gan Blue Cross, a ganfu fod nifer fawr o gŵn bach ar gael i'w prynu ar-lein o hyd, gyda dros 400 o hysbysebion yn cael eu gosod bob dydd, ac mae'r dull gorllewin gwyllt hwn, i mi, yn tanseilio'r rheoliadau rydych wedi ceisio eu cyflwyno ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti. Fel y mae fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, wedi'i grybwyll, canfu ymchwiliad BBC Wales ei fod yn helpu i greu—